Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu cyllid dros y ddwy flynedd nesaf hyd at fis Mawrth 2025. Mae’r Rhaglen yn gymysgedd o gyllid refeniw a chyfalaf y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ystod eang o ymyriadau i feithrin balchder bro a gwella cyfleoedd bywyd.
Nod y Gronfa yw cyflawni hyn drwy dair blaenoriaeth buddsoddi:
- Cymuned a Lle
- Cefnogi Busnesau Lleol
- Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhifedd oedolion)
Mae prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r gronfa.
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir Gaerfyrddin
Bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn darparu buddsoddiad ychwanegol o £32m ychwanegol i helpu i gyflawni rhai o amcanion strategol allweddol Sir Gaerfyrddin. Bydd £6.6 miliwn pellach ar gael ar gyfer mentrau rhifedd oedolion trwy’r rhaglen Lluosi.
Bydd y Gronfa yn cael ei defnyddio i ddarparu cyfleoedd newydd i gymunedau lleol, cefnogi datblygiad a thwf busnesau lleol yn ogystal â chefnogi adferiad canol ein trefi.
Gwyliwch y sesiwn wybodaeth ar-lein, lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd cyllido sydd ar gael drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir Gaerfyrddin.

Rydym wedi llunio rhai Cwestiynau Cyffredin sy’n deillio o'r sesiwn wybodaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ynghylch y gwahanol gronfeydd, anfonwch neges e-bost i CFG@sirgar.gov.uk.
Byddai hyn yn dibynnu ar y cyllid rydych yn gwneud cais amdano. Edrychwch isod i gael canllawiau manwl ynghylch y broses o wneud cais am bob un o'r cronfeydd:
Nid oes angen cael arian cyfatebol ar gyfer Prosiectau Strategol gan ymgeiswyr o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector.
Oes, gellir paru Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes â benthyciad, yn enwedig os yw'r benthyciad hwnnw ar gyfraddau masnachol gan nad oes unrhyw oblygiadau o ran cymorthdaliadau ar y benthyciad hwnnw.
Byddai angen rhagor o fanylion am y prosiect a'r math o arian cyfatebol rydych yn bwriadu ei ddefnyddio. Anfonwch neges e-bost at CFG@sirgar.gov.uk gan roi rhagor o fanylion am y prosiect penodol a'r pecyn cyllid arfaethedig.
Os na fydd cais yn llwyddo i gael cyllid yn dilyn asesiad llawn, ni fydd yn cael ei gyflwyno yn yr ail alwad. Yn dibynnu ar y cyllid yr ydych yn gwneud cais amdano, efallai y bydd cyfleoedd i wneud cais eto yn dilyn trafodaethau gyda’r tîm cyflawni perthnasol.
Nac ydy, nid yw'r grant ar gael i elusennau.
Nid oes angen i sefydliadau fod yn Sir Gaerfyrddin i ymgeisio, ond mae'n rhaid i holl weithgarwch y prosiect ddigwydd yn Sir Gaerfyrddin.
Oes, gweler y manylion am y cymorth grant sydd ar gael drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Ar gyfer prosiectau sy’n gofyn am lai na £10,000, anfonwch neges e-bost at biwro@sirgar.gov.uk.
Y grant mwyaf yn y Gronfa Cymunedau Cynaliadwy yw £250,000.00
Nid oes uchafswm wedi'i osod ar gyfer y prosiectau strategol.
Mae disgwyl i geisiadau o dan y flaenoriaeth Pobl a Sgiliau fod ar agor ym mis Ebrill.
Mae'r broses ymgeisio'n gystadleuol ac mae pob cais yn destun i'r un broses asesu. Byddai prosiect sy'n cael ei gyflwyno yn sgil astudiaeth dichonoldeb yn destun i'r un broses asesu â phob cais arall.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, ac rydym yn ddarostyngedig i'w dyddiadau cau cyllido.
Byddwn yn ymdrechu i asesu prosiectau cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau. Rydym yn rhagweld y byddai'r broses o gymeradwyo cais yn cymryd tua 7 wythnos ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r cais.
Byddai'r gronfa'n agored i'r mesurau hyn lle maent yn rhan o brosiect cyffredinol sy'n cynnwys prynu a gosod system ynni.
Gellir gweld canllaw manwl ar gyfer ymgeisio, sy'n cynnwys y gofynion caffael ar gyfer pob cronfa, yn adran y gronfa berthnasol isod.

Cyfleoedd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin
Prosiectau strategol
Cronfa Cymunedau Cynaliadwy
Cronfa Arloesi Gwledig
Datblygu Lle
Cefnogi busnesau lleol
Pobl a Sgiliau
Lluosi
Gweld sut y bydd cyllid yn cael ei ddarparu yn Sir Gaerfyrddin.
Linciai a dogfennau defnyddiol
- Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: prosbectws
- Diffiniadau o Allbynnau a Chanlyniadau
- Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: gwybodaeth ychwanegol
- Cynllun Buddsoddi Lleol Sir Gaerfyrddin
- Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol
- Cynllun Adfer a Chyflawni Economaidd Sir Gaerfyrddin
- Archwilio'r Rhagolygon Arloesi ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol ar Gyfer De Orllewin Cymru

Galwad Agored - Sgiliau
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau a nodwyd yng Nghynllun Buddsoddi Sir Gaerfyrddin o dan y flaenoriaeth Pobl a Sgiliau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn rhaglen yr Angor Pobl a Sgiliau, rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer prosiectau strategol mwy sy'n canolbwyntio'n benodol ar sgiliau yn y meysydd canlynol:
- Gofal
- Digidol
- Gwyrdd
- Lletygarwch/Arlwyo
Mae'r rhain wedi'u nodi yng Nghynllun Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin Cymru fel meysydd sydd naill ai â nifer fawr o swyddi gwag; sydd â chanfyddiad gwael fel lle i weithio; sydd angen sgiliau allweddol er mwyn dod i mewn i'r sector neu sy'n sector newydd sy'n datblygu lle bydd cyfleoedd enfawr i wella sgiliau unigolion i ymuno â'r diwydiannau newydd sy'n cael eu datblygu yn y sir a'r rhanbarth.
Rydym yn chwilio am brosiectau strategol sy'n cynnig cyrsiau byr achrededig a fydd yn ailsgilio unigolion sydd o bosibl yn meddwl am newid gyrfa; yn chwilio am waith neu mae angen gwella eu sgiliau i gael gwaith. Byddem yn disgwyl i'r prosiectau greu cyfleoedd mewn meysydd allweddol lle mae sawl swydd wag ond dim digon o bobl â'r sgiliau cywir i lenwi'r swyddi.
Galwad Agored - Lluosi
Lluosi yw'r rhaglen sydd wedi'i datblygu i helpu i weddnewid bywydau oedolion ledled y Deyrnas Unedig, trwy wella eu sgiliau rhifedd swyddogaethol trwy diwtora personol, hyfforddiant digidol, a chyrsiau hyblyg am ddim. Dylai Lluosi ategu’r ddarpariaeth bresennol ond nid ei dyblygu. Gofyniad craidd Lluosi yw darparu cymorth sgiliau rhifedd hyblyg i oedolion 19+ oed nad oes ganddynt gymhwyster mathemateg Lefel 2 neu uwch.
Rydym yn chwilio'n benodol am sefydliadau sydd â'r capasiti a'r gallu i gyflawni portffolio ymyriadau Lluosi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a nodir gan Lywodraeth y DU a'r blaenoriaethau a nodir yng Nghynlluniau Buddsoddi Rhanbarthol Sir Gaerfyrddin a De-Orllewin Cymru.
Y gyllideb sydd ar gael ar gyfer yr alwad Lluosi hon am geisiadau yw £5.5miliwn.
Sut mae gwneud cais
Bydd angen i bob ymgeisydd lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais Cronfa Ffyniant Gyffredin ac Atodiad A gan ddefnyddio'r ddogfen ganllaw ymgeisio.
Ar ôl cwblhau eich cais, anfonwch y ffurflen gais ynghyd ag Atodiad A drwy e-bost at CFG@sirgar.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yn yr alwad agored hon yw 12 hanner dydd 2 Mai, 2023.
Pecyn Cais
- Ffurflen Gais
- Atodiad A
- Ffurflen Arian Cyfatebol
- Ffurflen Cynnif ar y Cyd
- Canllawiau Ffurflen Gais
- Meini Prawf Asesu
- Rheolau Caffael

- Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau De-Orllewin Cymru 2022-2025

Cyfanswm y gronfa: £2m
Y grant leiaf: £10k
Y grant mwyaf: £250k
Nod y gronfa:
Nod y Gronfa Cymunedau Cynaliadwy yw darparu'r cymorth angenrheidiol i helpu i gryfhau gwead cymdeithasol cymunedau, gan feithrin balchder bro yn ogystal â sicrhau budd economaidd uniongyrchol a/neu anuniongyrchol.
Bydd y prosiect yn darparu cymorth ariannol trwy gyflawni cynllun grant gwerth £2m a fydd yn cefnogi buddsoddiadau cyfalaf a refeniw.
Bydd y grant yn canolbwyntio ar y themâu canlynol sydd wedi'u nodi fel blaenoriaeth fel rhan o Gynllun Buddsoddi Strategol y Sir.
- Trechu Tlodi
- Economi Gylchol
- Llesiant / Hamdden
- Mynediad at Wasanaethau
- Yr Amgylchedd a Gwyrdd
- Twristiaeth, Diwylliant / Treftadaeth
- Ymgysylltu Cymunedol
Bydd cyllid cyfalaf a refeniw hyd at uchafswm o £250,000 ar gael.
Prosiectau cymwys
Dyma enghreifftiau o'r math o weithgareddau cymwys y gellir eu hystyried ar gyfer y cyllid:
- Seilwaith cymunedol a chymdogaeth newydd, neu welliannau i seilwaith presennol, gan gynnwys mannau gwyrdd lleol.
- Cymorth ar gyfer gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol, treftadaeth a chreadigol lleol.
- Cymorth ar gyfer gwella teithio llesol a phrosiectau seilwaith trafnidiaeth gwyrdd eraill ar raddfa fach.
- Datblygu a hyrwyddo ymgyrchoedd ehangach a phrofiadau gydol y flwyddyn sy'n annog pobl i ymweld â'r ardal leol a'i chrwydro.
- Gwirfoddoli a/neu weithredu cymdeithasol sy'n cael effaith.
- Cyfleusterau chwaraeon lleol.
- Buddsoddi mewn meithrin gallu a chymorth seilwaith i grwpiau cymunedol.
- Mesurau cymunedol i leihau costau byw gan gynnwys fesurau i wella effeithlonrwydd ynni, a mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid hinsawdd.
- Cyllid i gefnogi astudiaethau dichonoldeb perthnasol.
- Buddsoddi a chymorth i seilwaith digidol ar gyfer cyfleusterau cymunedol lleol.
Sefydliadau Cymwys
- Grwpiau Cymunedol a Gwirfoddol Cyfansoddiadol.
- Elusennau cofrestredig.
- Mudiadau di-elw.
- Mentrau cymdeithasol.
- Gall canghennau lleol o sefydliadau trydydd sector cenedlaethol wneud cais gan ddefnyddio Cyfansoddiad y corff rhiant ond mae'n rhaid iddynt gael eu Cyfrif Banc lleol eu hunain.
- Gall Cynghorau Tref a Chymuned wneud cais am brosiectau cymunedol sy'n ychwanegol at gyfrifoldebau statudol arferol a fydd o fudd i'r gymuned.
- Cyrff Cyhoeddus.
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau
Cymunedau Cynaliadwy – cyfanswm y gronfa - £2,000,000
Galwad 1af am geisiadau - cyllideb wedi'i dyrannu o £1,000,000
Yn agor 1 Mawrth, 2023 - dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 29 Mawrth, 2023
2il alwad am geisiadau – cyllideb wedi'i dyrannu o £750,000
Yn agor 1 Ebrill, 2023 - dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 26 Ebrill, 2023
3ydd galwad am geisiadau – cyllideb wedi'i dyrannu o £250,000
Yn agor 1 Mai - dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 29 Medi, 2023
Pecyn Cais
Am ceisiadau rhwng £10,000 a £50,000
Am ceisiadau rhwng £50,000 a £250,000
I drafod eich prosiect arfaethedig, anfonwch e-bost at Biwro@sirgar.gov.uk

Bwriad Cronfa Arloesi Gwledig Sir Gaerfyrddin yw cael pobl, busnesau a chymunedau lleol sy'n ymwneud â darparu atebion cynaliadwy ac arloesol i fynd i'r afael â rhai o'r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n wynebu ardaloedd gwledig.
Mae'r gronfa refeniw hon yn rhoi cyfle i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau neu'n gweithio gyda chymunedau gwledig dreialu ffyrdd newydd o weithio neu syniadau sy'n mynd i'r afael â materion gwledig sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau allweddol a nodwyd.
Dim ond sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau mewn wardiau gwledig sy'n gymwys i wneud cais. Gallwch gadarnhau a yw eich ardal yn gymwys ar tudalen Ardaloedd Cymwys.
Gweithgaredd cymwys
- Hwyluso - cymorth i sefydliadau a grwpiau i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau a'u harbenigedd eu hunain.
- Prosiectau Peilot – gweithgareddau ar raddfa fach ac am amser cyfyngedig (heb fod yn fwy na 12 mis) gyda'r nod o brofi cysyniad.
- Ymchwil – costau refeniw ar gyfer cyfuniad o gostau amser staff ac ymgynghoriaeth i ymgymryd â'r ymchwil gefndirol ar gyfer problem neu fater penodol.
Pwy all wneud cais?

- Elusennau Cofrestredig.
- Sefydliadau di-elw.

- Cyrff Sector Cyhoeddus.
- Sefydliadau addysg.
Beth sydd ar gael?
- Uchafswm o £45k
- Uchafswm cyfnod cyflawni o 12 mis.
Pecyn Cais
- Galwad 1 - Dyddiad Cau: 29/03/2023 - Cyllid ar gael: £250k
- Galwad 2 - Dyddiad Cau: 26/04/2023 - Cyllid ar gael: £250k
- Galwad 3 - Dyddiad Cau: 29/09/2023 - Cyllid ar gael: Dibynnol ar cyfanswm cyllid sydd yn weddill
I drafod eich prosiect arfaethedig, anfonwch e-bost at RDPSirGar@sirgar.gov.uk

Cronfa Eiddo Gwag Canol Trefi
Ariennir Cronfa Eiddo Gwag Canol Trefi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Bydd y gronfa yn targedu eiddo gwag y tu mewn i ffiniau llinellau coch penodedig yn nhrefi Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.
Bydd y cyllid ar gael i berchnogion / lesddeiliaid (prydles 7 mlynedd o leiaf) a bydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod eiddo gwag ar y llawr gwaelod yn cael eu defnyddio at ddibenion masnachol unwaith eto. Ni fydd gwaith hapfasnachol yn cael ei gefnogi.
Yr uchafswm a gaiff ei ddyfarnu fydd £30,000 fesul cais ar gyfradd ymyrryd o 70%.
Os bydd y cais yn cael ei gyflwyno gan landlord sy'n bwriadu gosod yr eiddo, cyn cyflwyno cais llawn bydd angen i denant cyn gosod / terfynol fod yn ei le.
Gwneud cais am y Cronfa Eiddo Gwag Canol Trefi
Cronfa Ddigwyddiadau
Gan weithio gyda'r Ardaloedd Gwella Busnes a'r Cynghorau Tref yng nghanol ein prif drefi bydd cyllid ar gael i gefnogi digwyddiadau i wella'r hyn sy'n cael ei gynnal eisoes a threialu digwyddiadau newydd yng nghanol y prif drefi, sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Yr uchafswm a gaiff ei ddyfarnu fydd £4,000 fesul digwyddiad yn seiliedig ar gyfradd ymyrryd o 70%.
Diben y gronfa yw cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y trefi a gwella'r canfyddiad o ddigwyddiadau.
Sut mae wneud cais
I drafod eich prosiect arfaethedig a gofyn am ffurflen gais, anfonwch e-bost at Trefi@sirgar.gov.uk

Cefnogi Busnesau Lleol
Mae'r angor Cefnogi Busnesau Lleol yn cynnwys tair elfen allweddol –
Grantiau cychwyn busnes a thyfu busnes
Fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i gefnogi datblygu economaidd a busnesau drwy'r cyfnod heriol hwn, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Grant Tyfu ac Adfer Busnes Sir Gaerfyrddin sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Nod yr ymyrraeth grant yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol, a chefnogi busnesau ym mhob cam o’u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys trwy rwydweithiau lleol.
- Grantiau rhwng £1,000 a £10,000 ar gael.
- Gellir ystyried grantiau o hyd at £50,000 fesul achos ar gyfer ceisiadau sy'n dangos yn glir brosiectau arloesi, Ymchwil a Datblygu a/neu ddiogelu at y dyfodol sy'n gysylltiedig â'r strategaeth arloesi lleol.
- Bydd pob grant yn seiliedig ar 50% o'r costau cymwys neu uchafswm o £5,000 ar gyfer pob swydd sy'n cael ei chreu, a/neu £5000 ar gyfer pob swydd sy'n cael ei diogelu, pa un bynnag yw'r lleiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd a/neu ddiogelu un swydd cyfwerth ag amser llawn (CALL) er mwyn cael mynediad at y grant.
Gwneud cais am y grant cychwyn busnes
Gwneud cais am y grant tyfu ac adfer busnes
Cronfa Datblygu Eiddo
Mae Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol Sir Gaerfyrddin yn gallu rhoi cymorth ariannol i ddatblygwyr tuag at godi adeiladau diwydiannol a masnachol gyda'r prif nod o greu capasiti ar gyfer cyflogaeth yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r gronfa yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae hyd at £750,000 ar gael ar gyfer prosiectau cymwys ar gyfradd ymyrryd o hyd at 45%.
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau a fydd yn cynnig manteision pendant i'r economi leol o ran:
- Nifer ac ansawdd y swyddi a grëir/y darperir ar eu cyfer
- Yr arwynebedd llawr a grëir
- Maint y tir a ddatblygir
- Nifer y BACHau y darperir ar eu cyfer
- Effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg
- Nifer y mentrau sy'n mabwysiadu neu’n gwella strategaethau cydraddoldeb a systemau monitro.
Nod y cyllid yw talu'r bwlch ariannol rhwng y costau adeiladu a gwerth yr eiddo ar y farchnad wedi'i gwblhau. Bwriedir i’r cymhelliad hwn roi hwb i nifer y safleoedd busnes o safon uchel sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin drwy gynnig arian i ddarparu unedau diwydiannol neu swyddfeydd o safon uchel.
Gwneud Cais am y Cronfa Datblygu Eiddo
Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygu economaidd a busnesau drwy'r cyfnod heriol hwn, yn ogystal â bod yn garbon sero net erbyn 2030, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gaerfyrddin. Bydd y Gronfa yn gynllun grant trydydd parti, a fydd yn darparu cymorth cyfalaf i fusnesau tuag at brynu systemau ynni adnewyddadwy ar gyfer eu safleoedd busnes.
Nod y gronfa yw helpu busnesau lleol i fod yn gynaliadwy yn ystod y cyfnod heriol hwn, a rhoi cymorth iddynt dyfu a ffynnu a'u helpu ar eu taith tuag at ddod yn garbon sero net.
- Grantiau rhwng £1,000 (lleiafswm) a £25,000 (uchafswm) ar gael tuag at gost y system ynni adnewyddadwy
- Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar ddim mwy na 50% o'r costau cymwys

Cronfa Cymorth Cyflogadwyedd
Bydd hyn yn cynnig cymorth ariannol wedi'i dargedu i sefydliadau sy'n gweithio gydag unigolion sydd bellaf o'r farchnad lafur ac sydd â rhwystrau cymhleth sy'n gofyn ymyrraeth arbenigol.
Gwahoddir sefydliadau i gyflwyno ceisiadau am gyllid hyd at £200,000 i ddarparu'r cymorth arbenigol.
Bydd angen i geisiadau ddangos eu bod yn gwneud y canlynol:
- mynd i'r afael ag un neu fwy o themâu allweddol y prosiect
- gallu dangos angen sydd wedi'i nodi a'i fynegi'n glir
- cyflawni ystod eang o effeithiau economaidd a chymdeithasol
- yn gynaliadwy ar ôl i'r cyllid ddod i ben
- wedi ystyried sut mae cyfleoedd sgiliau a phobl yn rhan o gyflawni’r prosiect ehangach
- ategu a pheidio â dyblygu'r prosiect angor neu weithgarwch arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru
- gallu dangos sut bydd modd mynd i'r afael â sgiliau digidol a sgiliau Cymraeg
- gallu cynnig sut bydd y cyllid yn helpu i gael unigolion yn agosach at gyflogaeth neu wirfoddoli drwy gynnig hyfforddiant a chymorth
Bydd angen i bob cais ddangos bod modd cyflawni'r gwaith erbyn diwedd Rhagfyr 2024 er mwyn caniatáu digon o amser i gau'r rhaglen.
Sut mae gwneud cais
Bydd angen i bob ymgeisydd lawrlwytho a llenwi ffurflen gais y Gronfa Ffyniant Gyffredin gan ddefnyddio'r ddogfen ganllaw ymgeisio.
Ar ôl cwblhau eich cais, anfonwch y ffurflen gais drwy e-bost at skills@sirgar.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yn yr alwad agored hon yw 12 hanner dydd 2 Mai, 2023.
Cronfa Datblygu Sgiliau
Gwahoddir ceisiadau i ddarparu hyfforddiant gan gynnwys cyrsiau byr heb eu hachredu; cyrsiau achrededig (rhai byr a hyd at flwyddyn) a chyrsiau arbenigol i unigolion dros 16 oed. Nod y Gronfa Datblygu Sgiliau yw dysgu sgiliau i unigolion ac uwchsgilio unigolion mewn meysydd lle bydd cyfleoedd gwaith a lle mae bylchau yn y sgiliau presennol (fel y nodir yng Nghynllun Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin Cymru 2022 – 2025)
Mae angen i bob ymgeisydd ddangos nad yw'r cynigion ar gyfer cyllid yn dyblygu'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd naill ai drwy ddarpariaeth coleg ran-amser/amser llawn; neu drwy brosiectau presennol Sgiliau Llywodraeth Cymru (gan gynnwys y Cyfrif Dysgu Personol).
Rhaid i geisiadau gyd-fynd â'r meysydd sgiliau allweddol canlynol:
- Sero Net
- Digidol (arbenigol)
- Gweithgynhyrchu
- Gwasanaethau Cwsmeriaid
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Datrys Problemau
- Meithrin Hyder
Bydd angen i bob cais ddangos y gallu i ddarparu'r cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd angen i bob cais ddangos bod modd cyflawni'r rhaglen gyfan erbyn diwedd Rhagfyr 2024.
Sut mae gwneud cais
Bydd angen i ymgeiswyr lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais Cronfa Ffyniant Gyffredin gan ddefnyddio'r ddogfen ganllaw ymgeisio.

Ariennir y prosiectau hyn yn rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhan ganolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder bro a gwella cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi ym meysydd cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gov.uk.