Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes

13. Sut Mae Gwneud Cais

  • 1

    Cyn i ni ofyn i chi wneud cais llawn, bydd angen i chi gyflwyno mynegiant o ddiddordeb sy'n amlinellu eich cynnig busnes a'ch costau. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

    • Eich manylion
    • Manylion busnes a disgrifiad o'i brif weithgaredd
    • Costau arwyddol y prosiect
    • Manylion unrhyw gyllid / arian ychwanegol

    Lawrlwythio Mynegiant o ddiddordeb

  • 2

    Ar ôl i ni dderbyn eich mynegiant o ddiddordeb, byddwn yn gwirio os yw  eich busnes arfaethedig yn gymwys i gael cefnogaeth drwy'r gronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes. Byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 7-10 diwrnod gwaith os yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus yn y cam cyntaf.

  • 3

    Os bydd eich cais mynegiant o ddiddordeb yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi gwblhau cais llawn. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

    • 2 flynedd o gyfrifon hanesyddol
    • Prawf o arian cyfatebol
    • Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru (wedi'i gwblhau)
    • Caniatâd Statudol yn cynnwys
    • Dyfynbrisiau ar gyfer eitemau rydych yn bwriadu eu prynu gan ddefnyddio arian o'r grant. Rhaid i chi ddilyn y rheolau caffael a amlinellir yn yr adran hon.
    • Ydymffurfiad gyda safonau'r iaith Gymraeg. (Mi fydd hwn yn cael ei asesu yn eich ffurflen gais)
    • Polisi Amgylcheddol – Mae angen i chi egluro sut y byddwch yn gweithredu arferion sy'n gydnaws â'r amgylchedd er mwyn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd wrth weithredu eich busnes. Byddem hefyd yn eich annog i gytuno i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru. https://businesswales.gov.wales/cy/addewid-twf-gwyrdd

    Byddwn yn e-bostio ffurflen gais gan defnyddio’r wybodaeth gyswllt a roddwyd gennych yn eich mynegiant o ddiddordeb. Bydd eich cais yn cael ei roi i aelod o'n tîm, a fydd yn cysylltu â chi os yw'n anghyflawn neu os oes angen gwybodaeth ychwanegol.

    Ystyrir ceisiadau wedi'u cwblhau'n llawn ar sail y cyntaf i’r felin nes bod y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn, dylech gwblhau hyn cyn gynted ag y bo modd.

    Rydym yma i helpu, anfonwch e-bost at: CYAB@sirgar.gov.uk os hoffech i ni fynd drwy eich cais gyda chi.

  • 4

    Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel sy'n cynnwys swyddogion o'r Awdurdod cyn i'r Pennaeth Adfywio ei gymeradwyo'n derfynol. Mi fydd ceisiadau am grantiau dros £10,000 yn cael ei allgyfeirio i'r aelod cabinet i gadarnhau 

    Bydd eich cais yn cael ei asesu yn erbyn: 

    • hyfywedd y busnes
    • eich arbedion carbon 
    • gwerth am yr arian am y swm o arian grant a ddyfernir
  • 5

    Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad terfynol eich cais yn dilyn adolygiad y panel. Os bydd eich cais yn llwyddiannus a'ch bod yn derbyn cyllid, byddwn yn anfon telerau ac amodau'r grant atoch drwy e-bost. Rhaid i chi dderbyn y telerau hyn o fewn 30 diwrnod. 

    Mae angen i chi brynu'r eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich cais a chyflwyno ffurflen hawlio o fewn 4 mis i dderbyn eich cymeradwyaeth derfynol a thelerau'r grant. Os oes angen mwy o amser arnoch i wneud hyn neu os ydych wedi newid unrhyw un o'r eitemau/cyflenwyr a restrir yn eich cais, bydd angen i chi ofyn am estyniad neu wyriad.

  • 6

    I ofyn am i'r cyllid gael ei dalu, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

    • anfoneb / derbynneb taliad
    • datganiad banc yn dangos y taliadau sy'n cael eu gwneud i'r cyflenwr
    • lluniau o'r eitemau
    • manylion banc

    Cofiwch na allwch ddefnyddio arian grant ar gyfer eitemau a brynir:

    • ag arian parod
    • ar ffurf prynu prydlesi, hurbrynu, cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid
  • 7

    Mae angen i chi brynu'r eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich cais a chyflwyno ffurflen hawlio o fewn 4 mis i dderbyn eich cymeradwyaeth derfynol a thelerau'r grant. Os na allwch wneud hyn am unrhyw reswm, bydd angen i chi ofyn am estyniad. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

    • Y rheswm pam mae angen estyniad arnoch 
    • Y dyddiad y byddwch yn gallu prynu eitemau a chyflwyno'ch ffurflen hawlio
  • 8

    Os byddwch yn newid unrhyw un o'r eitemau neu'r cyflenwyr y manylir arnynt yn eich cais, rhaid i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

    • Eitemau/cyflenwyr yr ydych yn eu newid, a'r rheswm pam yr ydych wedi penderfynu gwneud hyn
    • Eitemau / cyflenwyr a chostau newydd
    • Dyfynbrisiau newydd, darllenwch reolau caffael am arweiniad.

    Peidiwch â phrynu unrhyw eitemau hyd nes eich bod wedi cael cymeradwyaeth, byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn 3-5 diwrnod gwaith.

     

  • 9

    Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen hawlio, byddwn yn gwirio eich bod wedi cydymffurfio â thelerau'r grant. Os bydd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnom cyn y gallwn ryddhau'r arian, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi pan fydd eich hawliad wedi'i gymeradwyo.

    Gall gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith o'r adeg y byddwn yn derbyn eich ffurflen gais i gwblhau'r asesiad hwn a threfnu bod taliad yn cael ei wneud i'ch cyfrif banc. 

  • 10

    Byddwn yn monitro eich busnes a’r allbynnau yn ffurfiol ac yn gofyn am dystiolaeth ym mlwyddyn 1, 3 a 5.