Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/08/2023

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynorthwyo unigolion i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd i helpu i adfywio cymunedau a darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen ar gyfer unigolion ledled Cymru.

Mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael i adnewyddu eiddo gwag i'w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt ac i wella eu heffeithlonrwydd ynni.

Mae'r grant ar gael mewn rhandaliadau wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd roi cyfraniad o 15% o leiaf.

Gwneud cais am gyllid grant ac i gael rhagor o wybodaeth

Cyllid