Grant cychwyn busnes

8. Caffael

Prynu Nwyddau, gwasanaethau, neu waith

Mae disgwyl i ymgeiswyr, wrth gaffael gwaith, nwyddau a gwasanaethau, gynnal y broses honno mewn modd sy'n sicrhau ei bod yn agored, yn rhoi gwerth yr arian ac yn deg. Rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau caffael fel y maent wedi’u hamlinellu yn yr adran hon.

Meddwl yn Sir Gaerfyrddin yn Gyntaf

Ar gyfer pryniannau sy'n is na £25,000 ystyriwch 'Meddwl yn Sir Gaerfyrddin yn Gyntaf' wrth geisio dyfynbrisiau ar gyfer Nwyddau/Gwasanaethau. Felly, rydym yn eich annog i archwilio'r farchnad i ganfod a oes unrhyw fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a all ddarparu'r nwyddau / gwasanaeth yr ydych yn ceisio eu prynu a'u cynnwys yn eich gwahoddiadau i ddyfynnu.  Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin a busnesau sy'n gweithredu o fewn y Sir ran fawr i'w chwarae yn adferiad economaidd Sir Gaerfyrddin ac mae datblygu cyflenwadau lleol yn hanfodol.

Trothwyon Caffael

Bydd yr union weithdrefnau sydd i’w dilyn yn dibynnu ar faint yr archeb neu’r contract sydd i’w osod. Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC) gyfres raddedig o weithdrefnau sy’n cydnabod yr angen am  ysgafnhau’r gofynion gweinyddol ar gyfer contractau sy’n ymwneud â symiau llai. Mae’r gweithdrefnau y byddem yn disgwyl i ymgeiswyr lynu atynt yw gweld  yn Atodiad 1.