Grant cychwyn busnes

3. Cymhwysedd

Ariennir Grant Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'i ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac oherwydd hynny dim ond ar gael i fusnesau newydd o fewn y sectorau cymwys sydd wedi ei leoli o fewn Sir Gaerfyrddin.

Dim ond ar gyfer busnesau cyn cychwyn (sydd ddim yn masnachu eto) y mae'r grant ar gael ar gyfer busnesau cyn cychwyn (sydd ddim yn masnachu eto) 

Bydd y grant ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng mis Mawrth 2023 ac Awst 2024 neu hyd nes y bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.

Mae cymorth wedi'i anelu'n bennaf at fusnesau newydd i fod yn gweithredu yn y sectorau twf a sylfaen canlynol:

  • Deunyddiau uwch a Gweithgynhyrchu;
  • Adeiladu;
  • Diwydiannau Creadigol;
  • Ynni a'r Amgylchedd;
  • Gwasanaethau Cyllid a Phroffesiynol;
  • Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu;
  • Gwyddorau Bywyd;
  • Bwydydd a Diodydd;
  • Twristiaeth
  • Adwerthu
  • Gofal

Fodd bynnag, caiff ceisiadau eu hystyried fesul achos gan ddibynnu ar eu cyfraniadau a'u gwerth posibl i'r economi leol, e.e. creu swyddi yng nghanol trefi, ardaloedd gwledig, cyswllt â phrosiectau strategol allweddol megis Yr Egin a Pentre Awel sef Phentref Llesiant Llanelli.

Pendine, Llanelli YMCA, Neuadd Farchnad Llandeilo, Safle cyflogaeth strategol Dwyrain Cross Hands.

Fodd bynnag, nid yw'r sectorau canlynol yn gymwys i gael cymorth: - cynhyrchu amaethyddol sylfaenol, coedwigaeth, dyframaethu, pysgota a gwasanaethau statudol, e.e. iechyd ac addysg sylfaenol

Rhaid prynu a hawlio'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant o fewn 4 mis i ddyddiad y llythyr cymeradwyo neu ddim hwyrach na 30 Medi 2024, pa un bynnag sydd gynharaf. Ni fydd estyniadau yn cael eu rhoi am gyflwyno ceisiadau.

Rhaid creu'r busnes arfaethedig a'r swyddi cysylltiedig o fewn 6 mis i daliad terfynol y grant neu 30 Tachwedd 2024 pa un bynnag fydd y cynharaf. Bydd y gwaith o fonitro'r busnes a'r swyddi a grëwyd yn digwydd a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni'r allbynnau ymroddedig arwain at y crafangau yn ôl o gronfeydd grant.

Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw'r hawl i fonitro a chynnal tystiolaeth yn 1, 3 a 5 mlynedd o dderbyn y cais.