Grant cychwyn busnes

10. Rheoli Cymhorthdal

Mae'r cynllun hwn yn dod o dan Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau (2022) presennol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ni ddylai cyfanswm y Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA) a dderbyniwyd mewn cyfnod treigl o dair blynedd ariannol fod yn fwy na £315,000 fesul busnes*. Os ydych wedi cael unrhyw gymorth ariannol arall yn y 3 blynedd ariannol ddiwethaf, disgrifiwch y cymorth yn y blwch isod. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw monitro lefel y Cymorth Ariannol Lleiaf a dderbyniwyd; gofynnir ichi ddatgan na ragorwyd ar hynny pe bai cynnig yn cael ei wneud. [* Mae trothwy ariannol y Cymorth Ariannol Lleiaf yn berthnasol ar lefel cwmni grŵp.]

Rhaid i bob cais hefyd ystyried sut y byddant yn cyflawni yn unol â rheoli cymorthdaliadau yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU:

https://www.gov.uk/government/collections/subsidy-control-regime

Os nad yw ymgeiswyr yn dangos yn ddigonol fod y prosiect arfaethedig yn cydymffurfio o dan drefn rheoli cymorthdaliadau'r DU, gall gael ei ystyried yn anghymwys, a gellid gwrthod eich cais.