Grant cychwyn busnes

2. Y Cynnig

    • Grantiau ar gael rhwng £1,000.00 and £50,000.00.
    • Bydd pob dyfarniad grant wedi'i seilio ar 50% o gostau cymwys neu uchafswm o £5,000 fesul swydd *wedi ei greu a/neu £5,000 y swydd *diogelu, pa un bynnag sydd leiaf. (O leiaf un newydd rhaid creu swydd a/neu un cyfwerth ag llawn amser (CALl) diogelu swyddi, er mwyn cael mynediad at y grant)
    • Yr isafswm grant a ddyfernir yw £1,000 (yn seiliedig ar o leiaf 1 swydd newydd wedi’i chreu) a’r grant mwyaf a ddyfernir fesul busnes yw £50,000
    • Mae dwy swydd ran-amser yn cael eu hystyried fel un cyfwerth ag llawn amser. Dylai CALl fod yn seiliedig ar oriau llawn amser safonol y cyflogwr. Os ydych chi ond yn creu neu'n diogelu swydd rhan amser (lleiafswm16 awr yr wythnos) dim ond ar sail pro rata y bydd y grant yn cael ei dalu h.y.uchafswm o £2500 am swydd rhan amser.
    • Rhaid hawlio'r holl swyddi sy'n cael eu creu fel rhan o'r grant o fewn 6 mis i ddyddiad y taliad grant terfynol neu 30 Tachwedd 2024 pa un bynnag sydd y dyddiad cynharaf.
    • Rydym yn annog bod pob un sy'n cael ei greu swyddi sy'n cael eu creu gyda chefnogaeth y grant i gael y Cyflog Byw Go Iawn. https://www.livingwage.org.uk/what-real-living-wage
    • Bydd y gronfa yn cefnogi entrepreneuriaid newydd gyda’u dyheadau cychwyn busnes trwy ddarparu cyfraniad ariannol tuag at brosiectau gwariant cyfalaf a/neu wariant refeniw arbenigol, a fydd naill ai’n galluogi prosiectau buddsoddi cyfalaf pellach neu gynnig cychwyn busnes penodol a allai olygu costau refeniw uchel.
    • Dim ond unwaith y gall pob busnes wneud cais am y Gronfa Gychwyn ond gall wneud cais am Gronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin ar gyfer prosiectau ar wahân os ydyn nhw'n tyfu'r busnes ac yn creu swyddi pellach. Rhaid cyflwyno'r canlyniadau o'r gronfa gychwyn, h.y., cychwyn masnachu a swyddi a grëwyd cyn y gellir ystyried y cais am y gronfa dwf.
    • Os yw'r busnes yn gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall fel Arfor, neu grantiau Canol Tref, ni ellir dyblygu'r gwariant a'r allbynnau
    • Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, rhaid i ymgeiswyr feddu ar y modd ariannol i brynu'r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn dilyn y broses hawlio (gweler yn y telerau ac amodau yn y ddogfen hon)
    • Rhaid cyflwyno hawliadau o fewn 4 mis i'r llythyr cynnig neu erbyn 30 Medi 2024 y fan bellaf pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Er mwyn cefnogi llif arian, bydd y tîm grant yn ystyried cyflwyno dau hawliad, ond mae'n rhaid gofyn am gytundeb ymlaen llaw gan y Cyngor.