Bydd pob dyfarniad grant wedi'i seilio ar 50% o gostau cymwys neu uchafswm o £5,000 fesul swydd *wedi ei greu a/neu £5,000 y swydd *diogelu, pa un bynnag sydd leiaf. (O leiaf un newydd rhaid creu swydd a/neu un cyfwerth ag llawn amser (CALl) diogelu swyddi, er mwyn cael mynediad at y grant)
Bydd angen rhagweld, y bydd unrhyw swyddi sy'n cael eu hawlio fel rhai a ddiogelir, yn cael eu colli o fewn 6 mis i'r cais. Bydd angen rhoi tystiolaeth fanwl o hyn, yn y cais
Mae dwy swydd ran-amser yn cael eu hystyried fel un cyfwerth ag llawn amser. Dylai CALl fod yn seiliedig ar oriau llawn amser safonol y cyflogwr. Os ydych chi ond yn creu neu'n diogelu swydd rhan amser (lleiafswm16 awr yr wythnos) dim ond ar sail pro rata y bydd y grant yn cael ei dalu h.y.uchafswm o £2500 am swydd rhan amser.
Rhaid hawlio'r holl swyddi sy'n cael eu creu fel rhan o'r grant o fewn 6 mis i ddyddiad y taliad grant terfynol neu 30 Tachwedd 2024 pa un bynnag sydd y dyddiad cynharaf
Os yw'r busnes yn gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall fel Arfor, neu grantiau Canol Tref, ni ellir dyblygu'r gwariant a'r allbynnau
Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, rhaid i ymgeiswyr feddu ar y modd ariannol i brynu'r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn dilyn y broses hawlio (gweler yn y telerau ac amodau yn y ddogfen hon)
Rhaid cyflwyno hawliadau o fewn 4 mis i'r llythyr cynnig neu erbyn 30 Medi 2024 y fan bellaf pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Er mwyn cefnogi llif arian, bydd y tîm grant yn ystyried cyflwyno dau hawliad, ond mae'n rhaid gofyn am gytundeb ymlaen llaw gan y Cyngor.
Bydd ceisiadau lluosog ar gyfer y grant Twf Busnes yn cael eu hystyried yn amodol ar gyflawni canlyniadau'r grant, e.e. creu swyddi.