Trawsnewid Trefi

8. Effaith ar yr Amgylchedd

Rydym wedi ymrwymo i fod yn garbon sero-net erbyn 2030 ac rydym yn awyddus i hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy drwy ein rhaglenni cyllido. Fel rhan o'ch cais, gofynnir i chi sut mae eich busnes yn dangos ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy.

Os cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn, bydd angen i chi ddarparu polisi a chynllun gweithredu amgylcheddol. Os oes angen help arnoch i ysgrifennu'r polisi, cysylltwch â Busnes Cymru. Byddem hefyd yn eich annog i gytuno i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru.

Bydd eich ymrwymiad i leihau effaith eich busnes ar yr amgylchedd nid yn unig yn cynorthwyo'r Sir i fod yn garbon sero-net, bydd hefyd yn eich helpu i fanteisio ar gyfleoedd ariannu yn y dyfodol. Gofynnir i chi ddangos dull eich busnes o gefnogi'r agenda bwysig hon mewn unrhyw geisiadau am grantiau yn y dyfodol.