Trawsnewid Trefi

2. Swm y cyllid

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried fesul achos. Mewn amgylchiadau lle mae cost y prosiect yn is na £250,000, bydd cyfradd ymyrraeth o 70% yn erbyn cyfanswm costau'r prosiect yn berthnasol. Bydd ceisiadau dros £250,000 yn cael eu hystyried drwy gyllid strategol Llywodraeth Cymru a bydd cyfradd ymyrraeth y grant yn cael ei gapio ar 45%.

Bydd swm y cyllid yn cael ei bennu ar y lefel isaf sydd ei hangen er mwyn i'r prosiect fynd rhagddo. Swm cyfyngedig o arian sydd ar gael, a chaiff hwn ei ddyfarnu ar sail gystadleuol.