Dewiswch iaith
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Cymraeg

Prif Gynllun Porth Tywyn

Mae gwaith yn cael ei wneud i drawsnewid Porth Tywyn ac mae nifer o ddatblygiadau cyffrous eisoes yn cael eu cyflawni, yn ogystal â mwy ar y gweill.

O amgylch Harbwr Porth Tywyn y mae 14 milltir o barcdir wedi'i dirweddu, sy'n rhoi golygfeydd godidog o Benrhyn Gŵyr a Bae Caerfyrddin. Mae'n lle delfrydol ar gyfer crwydro arfordir de a gorllewin Cymru, ac yn un o ardaloedd adfywio strategol Sir Gaerfyrddin.

Mae adfywio Harbwr Porth Tywyn yn brosiect mawr a gefnogir gan Gyd-fenter Morlan Elli rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru. Mae buddsoddiad eisoes wedi'i wneud mewn seilwaith a thrafnidiaeth er mwyn gwneud yr ardal yn fwy hygyrch a chryfhau'r cyswllt rhwng Parc Arfordirol y Mileniwm a chanol y dref.

Mae prif gynllun yr ardal yn darparu cyfleoedd datblygu amrywiol ar gyfer masnachu, adwerthu, hamdden a thwristiaeth, ynghyd ag unedau preswyl newydd. Dyma rai o'r datblygiadau diweddar a'r datblygiadau arfaethedig:

Hwb Gofynnwch gwestiwn