Canolfan Ailgylchu Fasnachol Nantycaws
Heol Llanddarog, Nantycaws, Sir Gaerfyrddin SA32 8BG

Dydd Amserau Agor
Dydd Llun 8.00am - 3.30pm
Dydd Mawrth 8.00am - 3.30pm
Dydd Mercher 8.00am - 3.30pm
Dydd Iau 8.00am - 3.30pm
Dydd Gwener 8.00am - 3.30pm
Dydd Sadwrn 8.00am - 11.00am
Dydd Sul Ar gau

Gwybodaeth bwysig

Bydd angen i chi ddod â'r canlynol i'w dangos i'r gweithiwr ar y safle cyn mynd i mewn:

  • Eich Trwydded Cludwyr Gwastraff
  • Dangoswch 'Nodyn Trosglwyddo Gwastraff' i'r gweithiwr ar gyfer eich gwastraff
  • Sicrhewch fod gennych ffordd o dalu

Pan fyddwch yn cyrraedd, ewch i'r dderbynfa i ddangos eich dogfennau, a darllenwch reolau'r safle.

Yna bydd y staff yn asesu'ch gwastraff ac yn rhoi gwybod i chi am y tâl, a bydd angen i chi ei dalu cyn gwaredu eich gwastraff.

Er enghraifft, bydd fan maint canolig yn llawn cardbord yn costio £15 + TAW.*

*Nodwch fod hyn er mwyn rhoi amcan yn unig ac mae'n bosibl y gall newid.

Ar ôl cael hawl i fynd i mewn i'r ganolfan:

  • Cadwch at reolau'r safle
  • Baciwch yn ôl i'r bae perthnasol a dadlwythwch eich gwastraff
  • Byddwch yn ofalus wrth adael gan fod yr allanfa a'r fynedfa drwy'r un giât