Sut rydym yn talu eich anfoneb

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/08/2023

Ein telerau talu yw 30 diwrnod o dderbyn anfoneb ddilys. Gweler ein tudalen Beth i'w gynnwys yn eich anfoneb.

Ein dull o dalu yw yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc gan ddefnyddio BACS. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu eich manylion banc ar eich anfonebau a rhowch wybod i ni ar unwaith am unrhyw newidiadau i'ch manylion banc.

Os oes cyfeiriad e-bost wedi'i ddarparu, byddwn yn cyflwyno hysbysiad electronig ynghylch taliad. Bydd yr hysbysiad ynghylch taliad yn cael ei gyflwyno ar e-bost i'r cyfeiriad rydych yn ei ddarparu ar eich anfoneb.

Fel arfer caiff taliadau eu gwneud ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. Byddwch yn derbyn eich taliad 2 ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad ar yr hysbysiad ynghylch taliad a ddarperir.