Bwyd a Hylendid

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/03/2024

Os ydych yn fusnes bwyd sy'n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin dylech fod yn ymwybodol o'r rheoliadau llym sydd ar waith i ddiogelu eich busnes a'ch cwsmeriaid. Mae ein tîm Iechyd yr Amgylchedd yn gallu eich cynghori ynghylch yr hyn y mae angen ichi ei wneud a bydd yn eich helpu drwy'r broses o gofrestru eich busnes a sicrhau ei fod yn bodloni'r holl safonau angenrheidiol.

Yn ogystal mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod y safonau iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni, ac rydym yn cynnal archwiliadau hylendid bwyd heb rybudd ac yn samplu bwyd yn rheolaidd pan fydd aelodau o'r cyhoedd yn rhoi gwybod am bryder.