Cymeradwyo safleoedd bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/08/2023

Dan ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd, gall fod angen cymeradwyaeth ar eich busnes bwyd os ydych yn bwriadu defnyddio cynhyrchion heb eu prosesu sy’n dod o anifeiliaid, er enghraifft, cig ffres, briwgig amrwd, llaeth neu wyau amrwd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Briwgig a pharatoadau cig
  • Cynhyrchion cig a chig wedi’i wahanu’n fecanyddol
  • Molysgiaid dwygragennog byw a chynhyrchion pysgodfeydd
  • Llaeth amrwd (ac eithrio llaeth buwch amrwd)
  • Cynhyrchion llaeth
  • Wyau (nid cynhyrchu cynradd)
  • Cynhyrchion wyau
  • Coesau brogaod a malwod
  • Braster anifeiliaid wedi’i rendro a chriwsion
  • Stumogau, pledrennau a choluddion wedi’u trin
  • Gelatin a cholagen
  • Rhai storfeydd oer a marchnadoedd cyfanwerthu

Ni chewch weithredu eich sefydliad bwyd hyd nes ei fod wedi’i gymeradwyo. Mae’r broses gymeradwyo yn mynnu eich bod yn rhoi gweithdrefnau yn eu lle i reoli diogelwch bwyd, yn seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP) .

Bydd dogfennau HACCP yn ffurfio rhan o’ch system rheoli diogelwch bwyd a ddylai fod yn addas ar gyfer eich busnes ac a ddylai fod yn syml ac yn briodol i’r math o gynhyrchu rydych yn bwriadu ei wneud, a maint y cynhyrchu hwnnw.

Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd atom. Nid oes ffi ar gyfer cymeradwyo busnes bwyd.

Nid yw cydsyniad dealledig yn berthnasol. Mae’n ofynnol inni roi côd cymeradwyaeth i weithredwr y busnes bwyd a hysbysu’r Asiantaeth Safonau Bwyd ynghylch y côd cymeradwyaeth a manylion y sefydliad sydd i’w gymeradwyo. Ni fydd codau cymeradwyaeth yn cael eu rhoi ac ni fydd y sefydliad yn cael ei gymeradwyo ond pan fydd y busnes bwyd yn cydymffurfio â’r holl ofynion rhagnodedig.

Lawrlwythwch ffurflen gais

Rhaid cyflwyno’r dogfennau canlynol gyda’ch cais:

  • Cynllun manwl wrth raddfa o’r sefydliad (arfaethedig) sy’n dangos lleoliad yr ystafelloedd a’r mannau eraill sydd i’w defnyddio i storio a phrosesu deunyddiau crai, cynnyrch a gwastraff, a threfn y cyfleusterau a’r offer.
  • Disgrifiad o'r canlynol sy'n arfaethedig:
    • System rheoli diogelwch bwyd ar sail egwyddorion HACCP
    • Y trefniadau o ran cynnal a chadw y sefydliad a’r offer
    • Y trefniadau o ran glanhau y sefydliad, yr offer a'r cerbydau
    • Y trefniadau casglu a gwaredu sbwriel
    • Cyflenwad dŵr
    • Trefniadau profi ansawdd y cyflenwad dŵr
    • Y trefniadau o ran profi cynnyrch
    • Y trefniadau rheoli plâu
    • Y trefniadau monitro o ran iechyd y staff
    • Y trefniadau o ran hyfforddiant hylendid i'r staff
    • Y trefniadau o ran cadw cofnodion
    • Y trefniadau o ran gosod nod adnabod ar ddeunydd pacio neu lapio cynnyrch

Byddwn yn ceisio penderfynu ynghylch ceisiadau am gymeradwyaeth mor gyflym â phosibl. Fodd bynnag, ni ellir rhoi cymeradwyaeth tan ar ôl i’r ffurflen gais gael ei chyflwyno’n gywir, ynghyd â’r dogfennau perthnasol eraill, e.e. cynllun HACCP.

Mae’n angenrheidiol inni gynnal archwiliad trylwyr o’r safle cyn rhoi cymeradwyaeth. Gall fod angen i swyddog ofyn am wybodaeth bellach cyn bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi.

Cysylltwch â ni os na chysylltir â chi cyn pen 28 diwrnod ar ôl cyflwyno cais.

Os ydych yn tybio eich bod wedi cael cam yn sgil ein penderfyniad, gallwch apelio i Lys Ynadon cyn pen 28 diwrnod ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud. Os ydych yn tybio eich bod wedi cael cam yn sgil penderfyniad y Llys Ynadon, gallwch apelio i Lys y Goron. Mewn rhai amgylchiadau mae gennych hawl i geisio adolygiad barnwrol.

Nodir yr esemptiadau yn y Canllawiau ar Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) ac maent yn seiliedig ar y safle yn manwerthu, neu’n cyflenwi manwerthwyr eraill, ar sail ymylol, leol a chyfyngedig.