Iechyd a Diogelwch

Diweddarwyd y dudalen ar: 13/11/2023

Mae'n rhaid i'r holl fusnesau sy'n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin fodloni pob safon a gweithdrefn iechyd a diogelwch berthnasol. Mae ein Tîm Iechyd yr Amgylchedd yn rheoleiddio iechyd a diogelwch mewn gweithleoedd amrywiol yn Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys archwilio damweiniau penodol y dylid eu cofnodi, digwyddiadau peryglus a chlefydau galwedigaethol; rydym hefyd yn archwilio cwynion yn y gweithle sydd o bwys.

Mae'r busnesau yr ydym yn eu rheoleiddio yn cynnwys swyddfeydd (ac eithrio swyddfeydd y llywodraeth), siopau, gwestai, bwytai, safleoedd hamdden, meithrinfeydd a grwpiau chwarae, tafarndai a chlybiau, amgueddfeydd (sy'n eiddo preifat), mannau addoli, llety gwarchod a chartrefi gofal

Caiff gweithleoedd eraill eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, sy'n cynnwys ffatrïoedd, ffermydd, safleoedd adeiladu, gweithfeydd glo, ysgolion a cholegau, caeau ffair, systemau nwy, trydan a dŵr, ysbytai a chartrefi nyrsio, safleoedd llywodraeth ganolog a lleol a gosodiadau alltraeth.

Mae'n rhaid adrodd am ddamweiniau difrifol yn y gweithle, clefydau galwedigaethol a digwyddiadau peryglus penodol (damweiniau agos) yn unol â Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013 (RIDDOR). Mae'r rheoliadau hyn yn rhoi dyletswydd ar gyflogwyr, pobl hunangyflogedig a phobl sy'n rheoli safleoedd gwaith (yr unigolyn sy'n gyfrifol) i adrodd yn ffurfiol am y fath digwyddiadau.

Gwneud cwyn

Os ydych chi wedi gweld rhywbeth yn y gweithle yr ydych chi'n credu sy'n torri cyfraith iechyd a diogelwch, a gallai achosi niwed, gellir adrodd amdanynt.  Ond cyn i chi wneud hynny, efallai y bydd hi'n bosibl i chi gywiro rhai problemau iechyd a diogelwch trwy siarad â'r person sy'n gyfrifol neu gynrychiolydd undeb.

Er mwyn ein galluogi ni i ddelio â chwynion yn gyflym ac yn effeithiol mae angen inni wybod:

  • ble a phryd digwyddodd yr amodau anniogel neu'r ddamwain
  • sut y gwnaethoch chi ddarganfod yr amodau anniogel neu'r ddamwain
  • ai chi yn unig yr effeithiwyd arno neu a effeithiwyd ar bobl eraill
  • eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost

E-bostiwch eirch cwyn i diogelurcyhoedd@sirgar.gov.uk