Trwyddedu

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023

Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu dau gynllun trwyddedu ar gyfer eiddo a gaiff eu rhentu’n breifat yn Sir Gaerfyrddin – sef cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer tai amlfeddiannaeth a chynllun trwyddedu dethol sy’n benodol ar gyfer Ward Tŷ-isa yn Llanelli.

I fod yn landlord trwyddedig mae’n rhaid i chi basio prawf ‘person addas a phriodol’. Ni fydd modd i landlordiaid sydd â rhai euogfarnau feddu ar drwydded ac mae’n rhaid iddynt enwebu rhywun arall syn addas ac yn briodol i reoli’r eiddo ar eu rhan.

Trwyddedu gorfodol Tai Amlfeddiannaeth (HMO)

Mae hyn yn berthnasol i Dai Amlfeddiannaeth sy’n cynnwys tair neu fwy o loriau ac sydd â phump neu fwy o feddianwyr nad ydynt yn ffurfio aelwyd unigol. Mae nifer y lloriau’n cynnwys isloriau y gellir byw ynddynt ac atigau a hefyd yn cynnwys llawr gwaelod masnachol â thŷ amlfeddiannaeth uwch ei ben ee mae siop llawr gwaelod â thŷ dau lawr a rennir uwch ei phen yn cyfrif fel eiddo tri llawr. Mae trwyddedu gorfodol yn berthnasol i’r Sir gyfan.

Ffioedd trwydded ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth (HMO)

Nifer o bobl Ffi (£) Ffi Ostyngol i Aelodau Cyswllt LAW (£) Ffi Amrywio (£)
3 380 300 40
4-6 520 440 60
7-10 660 580 80
11 + 800 720 100

Cynllun Trwyddedu Dethol

Nid yw trwyddedu dethol yn uniongyrchol gysylltiedig â thai amlfeddiannaeth. Gallai cynlluniau gael eu cyflwyno mewn ardaloedd lle nad oes galw mawr am dai neu mewn ardaloedd lle y ceir llawer iawn o broblemau yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall problemau o’r fath, sy’n aml yn cael eu creu gan nifer bach iawn o landlordiaid neu denantiaid, gael effaith sylweddol mewn ardal. Diben trwyddedu dethol, o’r herwydd, yw helpu i wella ardaloedd o’r fath. Mae’n rhaid i bob eiddo a gaiff ei rentu’n breifat o fewn ardal trwyddedu dethol fod wedi’i drwyddedu, os yw’n dŷ amlfeddiannaeth ai peidio.

Os ydych yn ddeiliad trwydded o fewn Cynllun Trwyddedu Dethol mae cyfrifoldeb arnoch i sicrhau nad yw eich tenantiaid yn achosi problemau o fewn ffiniau eich eiddo yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Os ydych yn ddeiliad trwydded o fewn Cynllun Trwyddedu Dethol mae cyfrifoldeb arnoch i sicrhau nad yw eich tenantiaid yn achosi problemau o fewn ffiniau eich eiddo yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys cerddoriaeth uchel a phartïon neu sbwriel nad yw’n cael ei roi allan yn briodol i’w gasglu. Er mai chi fydd yn gyfrifol yn y lle cyntaf am geisio ymdrin â materion o’r fath, byddwn ni, yr heddlu ac asiantaethau eraill yn gallu eich helpu i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ffioedd ar gyfer trwyddedau o fewn ardal Cynllun Trwyddedu Dethol

Math o Eiddo Ffi (£) Ffi Ostyngol i Aelodau Cyswllt LAW (£) Ffi Amrywio (£)
Meddiannaeth Unigol (1 Adeilad yn cynnwys teulu neu unigolyn) 240 180 20
2 Fflat 360 280 20
3 Fflat 480 400 40
4 Fflat 600 520 60
5 Fflat 720 640 80
6 Fflat neu fwy 840 760 100 

Eithriadau

Mae rhai mathau o eiddo wedi’u heithrio rhag trwyddedu, gan gynnwys llety prifysgol. Efallai y byddwn hefyd yn arfer ein disgresiwn er mwyn rhoi hysbysiad eithrio dros dro. Gall eithriadau dros dro gael eu caniatáu os ydych chi, fel landlord eiddo a gaiff ei rentu’n breifat, yn cymryd camau i newid y sefyllfa fel na fydd bellach angen i’r eiddo gael ei drwyddedu.