Safon Effeithlonrwydd Ynni Ofynnol

Beth yw Safon Effeithlonrwydd Ynni Ofynnol?

Ers Ebrill 2020 mae Safon Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol wedi'u cymhwyso i bob tenantiaeth sy'n cael eu rhentu'n breifat hyd yn oed y rhai heb newid tenantiaeth. Fel awdurdod lleol rydym yn ceisio sicrhau bod Landlordiaid yn derbyn cyngor a gwybodaeth am y gofynion presennol ac yn cyfeirio at y ffynonellau cymorth cyllid sydd ar gael lle bo hynny'n berthnasol. 

Os ydych ar hyn o bryd yn gosod eiddo gyda sgôr EPC o 'F neu G', ac nad ydych eisoes wedi gweithredu, rhaid i chi wella sgôr yr eiddo i sgôr isafswm o 'E' neu gofrestru eithriad lle bo hynny'n berthnasol. 

Tystysgrif Perfformiad Ynni

Bydd y Dystysgrif Perfformiad Ynni yn amlinellu'r mesurau a argymhellir y gallwch eu cymryd i'ch helpu i wella'r sgôr Ynni. 

Os ydych yn ansicr a oes gan eich eiddo EPC, ewch i wefan Llywodraeth Deyrnas Unedig i ddod o hyd dystysgrif ynni.

Os nad oes gennych dystysgrif ynni ewch i wefan Llywodraeth Deyrnas Unedig.

Cymorth Ariannol

Gallai gwneud gwelliannau ychwanegu gwerth i'ch eiddo tra hefyd yn diogelu eich buddsoddiad yn y dyfodol. Mae nifer o gynlluniau ar gael ar wefan ECO Flex a all helpu i ariannu'r gwelliannau angenrheidiol i roi ynni i'r cartref.

Opsiwn ariannu arall fyddai cartref yw Nyth Cymru.