Prynwch Efo Hyder

Diweddarwyd y dudalen ar: 09/08/2022

Mae Prynwch efo Hyder yn gynllun a gydnabyddir yn genedlaethol sydd wedi'i gymeradwyo gan Safonau Masnach. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol oddeutu 20 mlynedd yn ôl gan bartneriaeth rhwng Gwasanaethau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol mewn ymateb i bryderon ynghylch 'masnachwyr twyllodrus' yn ogystal â dyhead cyffredinol i godi'r safonau ar draws sectorau masnach penodol.

Mae'r cynllun yn rhoi rhestr i gwsmeriaid o fusnesau lleol, sydd wedi ymrwymo i fasnachu'n deg. Mae pob busnes ar y rhestr wedi bod yn destun nifer o wiriadau manwl cyn cael ei gymeradwyo fel aelod o'r cynllun.

Manteision y cynllun

  • sicrwydd i gwsmeriaid posibl y gallant ymddiried ynoch a'ch bod yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid da
  • cyfeirlyfr ar wefan Prynwch efo Hyder, sy'n cael ei defnyddio gan y cyhoedd i ddod o hyd i fusnesau dibynadwy
  • gwiriad Safonau Masnach cyn i chi gael eich derbyn er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gyfraith
  • defnydd o logo Prynwch efo Hyder a logo 'Cymeradwywyd gan Safonau Masnach'
  • byddwch yn sefyll allan ymhlith eich cystadleuwyr - dim ond y rhai sy'n ddigon da i basio ein gwiriadau fydd yn rhan o'r cynllun
  • cyngor yn uniongyrchol o weithwyr proffesiynol Safonau Masnach a gyflogir gan yr awdurdod lleol, a gwybodaeth am newidiadau i'r gyfraith a allai effeithio ar eich busnes
  • nid er elw - mae'r cynllun cael ei redeg gan awdurdodau lleol, felly mae'r holl ffïoedd yn talu am ei gynnal a'i hyrwyddo
  • mae'n helpu i ddiogelu eich cymuned rhag masnachwyr twyllodrus a busnesau annilys

Sut mae ymuno

Yn gyntaf, mae'n rhaid i fusnes wneud cais i ymuno â'r cynllun a phasio cyfres o wiriadau cefndir pwrpasol. Nid ar chwarae bach y rhoddir aelodaeth o'r cynllun. Bydd hanes cwynion pob ymgeisydd yn cael ei adolygu a bydd Safonau Masnach yn ymweld â nhw.

Mae angen sawl geirda gan gwsmeriaid blaenorol, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr gytuno i gydymffurfio â chôd ymddygiad y cynllun, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddilyn llythyren y ddeddf ac ysbryd y ddeddf. (Efallai y bydd angen datgeliad sylfaenol o gofnodion troseddol mewn rhai amgylchiadau)

Ffioedd

Mae ffi ymgeisio o £100 a delir unwaith yn unig, a ffi aelodaeth flynyddol sy'n dibynnu ar faint y busnes. Nodir y ffïoedd presennol ar wefan Prynu â Hyder, cofiwch fod cynllun Prynu â Hyder Sir Gaerfyrddin yn cynnig gostyngiad o 50% ar y ffi aelodaeth.

Os ydych yn hyderus yn eich busnes ac am wneud cais, ewch i wefan Prynwch efo Hyder neu cysylltwch â Viv Jones drwy ffonio 01554 742306 i gael ffurflen gais bapur.

Ewch i Prynwch efo Hyder wefan