Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro

1. Cyflwyniad

Rydym yn sylweddoli y gall y posibilrwydd o dendro am fusnes gyda ni weithiau ymddangos yn dasg frawychus. Nod ein canllaw yw helpu darpar gontractwyr, cyflenwyr a darparwyr i ddeall sut yr ydym yn prynu ein nwyddau, ein gwasanaethau a'n gwaith. Gallwn eich helpu i wella eich siawns o gael gwybod am gyfleoedd, a sut i wneud cynnig am waith. 

Bydd ein canllaw yn rhoi cyngor, arweiniad ac awgrymiadau ynglŷn â chaffael i chi er mwyn gwneud tendro yn broses haws a bydd yn esbonio'r derminoleg gaffael a ddefnyddir wrth dendro ac yn ystod prosesau caffael eraill.

Os hoffech gael rhagor o gymorth am sut y gallwch fasnachu gyda ni, anfonwch e-bost at kbaker@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 246241.

Fel Awdurdod, rydym yn gwerthfawrogi ein hystod amrywiol o gyflenwyr ac yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i gael mynediad at amrywiol gyflenwyr o safon, gan gydnabod bod busnes yn ymwneud â phobl trwy siarad â hwy, gwrando arnynt a'u deall. Y cysylltiadau busnes hyn sy'n gwneud ein contractau'n effeithlon ac yn effeithiol gan sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau posibl am arian i'n trethdalwyr, a hynny gan weithredu mewn modd agored, tryloyw ac anwahaniaethol.

Byddwn yn diweddaru'r canllaw hwn yn ôl yr angen i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn unol â threfniadau llywodraethu corfforaethol a deddfwriaeth er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n digwydd.