Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro

7. Ble yr ydym yn hysbysebu ein cyfleoedd contract?

Caiff yr holl weithgarwch caffael sydd werth dros £25,000, gan gynnwys Tendrau sydd dros drothwy Caffael Cyhoeddus y DU, ei hysbysebu ar GwerthwchiGymru. Rydym yn cynghori cyflenwyr i gofrestru ar GwerthwchiGymru sef y Porth Caffael cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys yr holl gyfleoedd caffael a hysbysebir yn eang ac a gaiff eu prisio uwchlaw ac islaw trothwyon Caffael Cyhoeddus y DU ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae hwn yn wasanaeth ar-lein am ddim ac yn eich galluogi i hyrwyddo eich sefydliad nid yn unig i'r Cyngor ond i gyrff eraill yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

Gallwch ddefnyddio GwerthwchiGymru i:

  • Chwilio am gyfleoedd tendro cyfredol
  • Derbyn rhybuddion am gyfleoedd newydd
  • Cysylltu â phyrth caffael eraill i gynnal eich tendrau (er enghraifft eDendroCymru)
  • Gweld Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN’s) ynghylch cyfleoedd yn y dyfodol
  • Gweld manylion contractau a ddyfarnwyd
  • Dod o hyd i wybodaeth gyswllt a phroffiliau cyrff sector cyhoeddus eraill

Mae'n bwysig cofrestru yn erbyn y categorïau sy'n berthnasol i'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith y mae eich sefydliad yn eu darparu yn unig. Bydd hyn yn sicrhau mai dim ond hysbysiadau am gyfleoedd contract sy'n addas i'ch maes gwaith y byddwch yn eu derbyn.

Strwythur codio yw Codau Geirfa Caffael Gyffredin a ddefnyddir wrth ddosbarthu contractau'r sector cyhoeddus i ddod o hyd i gyfleoedd tendro sy'n ymwneud â'r nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith a ddarperir gennych yn gyflym ac yn hawdd. Bydd angen i gyflenwyr ddewis y codau Geirfa Caffael Gyffredin priodol sy'n cyfateb i'r nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae'r Gwasanaeth Dod o hyd i Dendr a GwerthwchiGymru yn defnyddio'r codau Geirfa Caffael Gyffredin. Mae rhestr o godau Geirfa Caffael Gyffredin ar gael ar wefan GwerthwchiGymru wrth gofrestru.

Pan fyddwch yn barod i gyflwyno'ch Tendr, fel arfer bydd yn ofynnol i chi wneud hynny drwy wefan eDendroCymru, lle gallwch gofrestru am ddim. Bydd angen i chi hefyd gofrestru er mwyn gweld neu lawrlwytho unrhyw ddogfennaeth sy'n gysylltiedig â'r tendr.

Os ydych yn teimlo nad oes gan eich cwmni'r sgiliau na'r capasiti i gyflwyno cynigion am gontractau mwy o faint ar ei ben ei hun, gallech ymuno â chyflenwr arall a gwneud cynnig gyda'ch gilydd. Gelwir hyn yn Gyflwyno Cynnig ar y Cyd. Mae'n caniatáu i gwmnïau gyfuno eu hadnoddau i gynyddu eu capasiti neu eu cwmpas ar y cyd, er mwyn cystadlu am gontractau a allai fod wedi bod allan o'u cyrraedd fel arall. I gael arweiniad ar sut y gall busnesau bach ffurfio consortia i'w helpu i gystadlu am gontractau cyhoeddus mawr, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Gwario dan 25K

Ar hyn o bryd, nid oes gofyniad ffurfiol i hysbysebu dyfynbrisiau o dan £25k ar GwerthwchiGymru. Rydym yn hysbysebu rhai o'n tendrau sydd werth llai na £25K ar wefan GwerthwchiGymru, ond mae'r mater hwn yn cael ei adolygu'n gyson. Yn y rhan fwyaf o achosion, cyfrifoldeb pob adran o fewn y Cyngor yw cael dyfynbrisiau ar gyfer unrhyw nwyddau neu wasanaethau yr hoffent eu prynu. Mae hyn yn golygu na fydd ein holl gyfleoedd yn cael eu rhestru. Os hoffech gael rhagor o gymorth am sut y gallwch fasnachu gyda ni, anfonwch e-bost at kbaker@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 246241.

Mae aelodau etholedig ac uwch-swyddogion yn ystyried bod caffael yn ffactor hollbwysig, ac un o'r ystyriaethau sylfaenol yw "Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf" wrth geisio dyfynbrisiau am nwyddau neu wasanaethau sy'n is na £25,000 nad ydynt yn dod o dan y trefniadau presennol.