Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro

13. Cyngor a chymorth

Mae'r sefydliadau canlynol ar gael i'ch helpu a'ch arwain drwy'r broses dendro.  Os oes gennych gwestiwn penodol yr hoffech ei ofyn i ni, neu os hoffech gael rhagor o gefnogaeth ynglŷn â sut y gallwch fasnachu gyda ni, cysylltwch â'n tîm caffael drwy e-bostio kbaker@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 246241.

 

GwerthwchiGymru

Mae ein holl gyfleoedd caffael dros £25K wedi'u rhestru ar wefan GwerthwchiGymru.

eDendroCymru

Rhestrir yr holl gyfleoedd ar GwerthwchiGymru, ond bydd angen i chi gofrestru gydag eDendroCymru i lawrlwytho unrhyw ddogfennau ac i gyflwyno'ch cais yn electronig.

Busnes Cymru

Gall Busnes Cymru helpu busnesau bach a chanolig eu maint (sy'n cyflogi hyd at 250 o bobl), sydd am wella eu siawns o ennill contractau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Canolfan Cydweithredol Cymru

Os ydych chi'n rhan o fenter gymdeithasol sefydledig ac yn awyddus i dyfu, ehangu neu arallgyfeirio, gall Canolfan Cydweithredol Cymru helpu.

Gwasanaeth Dod o hyd i Dendr

Mae'r Gwasanaeth Dod o hyd i Dendr yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac yn arddangos gwybodaeth am gyfleoedd contract y sector cyhoeddus yn y DU.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cynnig gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau am ddim i'r sector gwirfoddol yng Nghymru sy'n cynnwys sefydliadau elusennol ac nid er elw.

 

 

Cysylltu â ni

Nod y canllaw hwn yw helpu i roi dealltwriaeth gliriach i sefydliadau sydd am weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ynglŷn â sut i wneud cynnig am gontractau a'r hyn sy'n ofynnol yn ystod y broses o gyflwyno dyfynbris neu dendr.

Os hoffech gysylltu â ni i awgrymu ffyrdd o wella'r canllaw neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â delio â ni ar unrhyw faterion Caffael, cysylltwch â ni ar:

E-bost: kbaker@sirgar.gov.uk

Neu

Ffoniwch: 01267 246241