Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro

5. Pa reolau, rheoliadau a gweithdrefnau caffael yr ydym yn eu dilyn?

Mae ein harferion caffael wedi'u rhagnodi gan Ddatganiad Polisi Caffael Cymru Llywodraeth Cymru. Mae'r Datganiad Polisi yn dilyn deg egwyddor ar gyfer caffael llesiant i Gymru yn seiliedig ar Nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a pholisïau allweddol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch caffael cydweithredol, cynaliadwy a blaengar sy'n integreiddio canlyniadau gwerth hirdymor.

Rydym yn cadw at yr holl godau ymarfer, gweithdrefnau, rheolau a rheoliadau perthnasol i sicrhau bod pob gweithgaredd caffael yn cael y gwerth gorau am arian bob amser; ac yn cael ei gynnal mewn modd agored, tryloyw ac anwahaniaethol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r gwerth gorau am arian o'r pwrs cyhoeddus trwy sicrhau manteision amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol i'n cymunedau lle bynnag y bo modd.

Rhaid i bob contract a wneir gan Gyngor Sir Caerfyrddin neu ar ei ran gydymffurfio â'r canlynol:

  • Deddfwriaeth Genedlaethol (Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015)
  • Ein Rheolau Gweithdrefnau Contractau
  • Rheolau Gweithdrefn Ariannol ar gyfer Ysgolion

Nid oes angen i Dendrau/Contractau islaw'r gwerthoedd hyn gydymffurfio â'r Rheoliadau Caffael Cyhoeddus llawn ond rhaid iddynt gydymffurfio â'n Rheolau Gweithdrefnau Contractau. Fodd bynnag, rhaid i BOB Tendr/Contract gydymffurfio ag egwyddorion caffael; sef trin gweithredwyr economaidd yn gyfartal a heb wahaniaethu a gweithredu mewn modd tryloyw a chymesur.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn Gyngor dwyieithog gyda llawer o gleientiaid sydd â'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt ac mae'n ofynnol i ni gydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Datganiad y Gymraeg 2021 sy'n rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru. Mae Safonau'r Gymraeg y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy yn mynnu ein bod yn defnyddio'r Gymraeg ac yn galluogi siaradwyr Cymraeg i gael mynediad i'n gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n ddyletswydd arnom i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn y sir, ac i beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na Saesneg yn ein holl wasanaethau. Yn ôl y gofyn, bydd gofynion y Gymraeg yn cael eu nodi'n glir mewn hysbysiadau contract a'r dogfennau tendro neu ddyfynbrisiau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (WFG) 2015 yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, megis y Cyngor, feddwl mwy am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac atal problemau megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd a mabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig. Bydd hyn yn helpu i greu'r gymuned yr ydym i gyd am fyw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae pum ffordd o weithio'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn tanategu popeth a wnawn ac yn ‘sicrhau ein bod yn gweithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb effeithio ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain”. Y pum ffordd o weithio yw hirdymor, atal, cynnwys, integreiddio a chydweithredu ac maent yn sicrhau bod model cyflawni cyson ar waith. Er mwyn sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y canlyniadau llesiant, mae'r Ddeddf yn gosod 7 Nod Llesiant.

Mae'r Nodau Llesiant ar gyfer pawb yng Nghymru i weithio tuag atynt, a rhaid i ni fel corff cyhoeddus hefyd ddangos ein bod yn gwneud penderfyniadau ac yn cymryd camau i sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at y nodau hyn. Byddwn yn ymdrechu i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol trwy ymagwedd gyfannol tuag at ein proses gaffael a thrwy gynnwys darpariaethau penodol lle bo'n berthnasol yn y dogfennau caffael.

Mae gan Sir Gaerfyrddin 13 o Amcanion Llesiant sy'n amrywio o helpu plant i fyw bywydau iach i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae'r amcanion hyn yn cyfrannu at ein gwaith o gyflawni saith Nod Llesiant cenedlaethol Cymru.