Marchnata a hyrwyddo

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/02/2024

Mae marchnata'n hanfodol ar gyfer pob digwyddiad a dylid mynd ati i wneud hynny mewn modd strwythuredig os ydych am ddenu niferoedd priodol a chymysgedd o bobl i'ch digwyddiad.

Dylech fod wedi nodi eich marchnad darged ar ddechrau'r broses gynllunio a dylai gwybodaeth am eich marchnad darged lywio pob cam o'r broses gynllunio. Dylech gael syniad clir o'ch darpar gwsmeriaid o ran pwy ydynt (oedran, incwm, diddordebau), gyda phwy y byddant yn mynychu (plant, ffrindiau, partneriaid ac ati), lle maent yn byw, pa gyfryngau y maent yn cael eu hamlygu iddynt (papurau newyddion lleol, radio, cylchgronau arbenigol, ac ati) ac yn y bôn sut y byddant yn ceisio elwa ar fynychu eich digwyddiad (ymlacio, dysgu, amser teuluol, archwilio diwylliannol, adeiladu cymunedol, ac ati.)

Diben a her allweddol eich ymgyrch farchnata yw creu dealltwriaeth o natur/ansawdd profiad y digwyddiad ac argyhoeddi eich cynulleidfa y bydd y digwyddiad yn brofiad cadarnhaol. Mae’r ffaith na allwch roi cynnig ar ddigwyddiad cyn i chi brynu tocyn yn gwneud hyn yn fwy anodd felly, mae'n bwysig nodi'r canlynol wrth hyrwyddo digwyddiadau:

  • Pwysigrwydd fideo, lluniau, lliw a cherddoriaeth.
  • Y potensial i fanteisio ar ddelweddau o enwogion, perfformwyr, siaradwyr, lleoliadau, noddwyr, cyrchfan ac ati.
  • Gwerth sylwadau, ardystiadau ac adolygiadau gan drydydd-partïon.
  • Dangos cynnwys a straeon perthnasol yn y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd yr uchod i gyd yn helpu i roi cipolwg i gwsmeriaid ar y digwyddiad cyn prynu tocynnau. Gall gwefannau megis Darganfod Sir Gar a Trip Advisor yn ogystal â'r rhai sy'n gysylltiedig â'ch lleoliad a diddanwyr fod yn fan cychwyn da ar gyfer casglu'r math hwn o wybodaeth.

Llunio cynllun cyfathrebu a dewis dulliau hyrwyddo

Mae eich cynllun cyfathrebu a'ch dewis o ddeunyddiau hyrwyddo yn hanfodol i gyfleu eich syniad a denu darpar gwsmeriaid i'ch digwyddiad. Dylech anelu at ddechrau marchnata cyn gynted â phosibl a chyfathrebu drwy ystod o ddulliau sy'n berthnasol i'ch marchnad darged.

Drwy ddefnyddio gwefannau megis Facebook a Twitter, gallwch ymgysylltu â llawer o bobl a chyfleu amrywiaeth o wybodaeth am eich digwyddiad. Mae hon yn ffordd gost isel o hyrwyddo eich digwyddiad gyda'r gallu i gynnwys lluniau, cerddoriaeth a fideo i ddod â'ch digwyddiad yn fyw. Gallwch hefyd fanteisio ar wahanol grwpiau diddordeb arbennig a chymunedol a allai helpu i rannu'r neges am eich digwyddiad, gan greu rhagor o gyffro am y digwyddiad. Yn yr un modd, mae gan lawer o artistiaid a pherfformwyr broffiliau yn y cyfryngau cymdeithasol a dilynwyr a all helpu i rannu’r neges am eich digwyddiad.

Gall fod yn gymharol syml a rhad i sefydlu gwefan. Mae gwefan, sydd â'r gallu i ddarparu gwybodaeth hanfodol, lluniau a fideos o'r digwyddiad a dolenni i gyfryngau cymdeithasol, eich lleoliad, siopau tocynnau, diddanwyr a pherfformwyr, yn ddull gwerthfawr iawn o hyrwyddo.

Mae defnyddio cyhoeddiadau a gwefannau rhestri digwyddiadau yn ffordd arall o rannu'r neges am eich digwyddiad, gellid cysylltu'r rhain â'r lleoliad ei hun. Mae nifer o bapurau newyddion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol hefyd yn gweithredu system restri (ar-lein ac mewn print). Yn yr un modd, os ydych yn targedu marchnad diddordeb arbennig yna mae gan lawer o gylchgronau dudalennau rhestri digwyddiadau ac mae hefyd gwefannau a chyhoeddiadau rhestri penodol y gallech gysylltu â nhw. Rhywbeth allweddol i'w ystyried gyda’r holl gyfryngau printiedig yw'r amseroedd aros sy'n gysylltiedig â'u hamserlenni cyhoeddi, gan y bydd rhai yn gofyn am y deunydd misoedd cyn y dyddiad cyhoeddi ei hun.

Yn dibynnu ar ddosbarthiad daearyddol eich marchnad darged, gall hysbysebu yn y cyfryngau printiedig hyd yn oed yn yr oes ddigidol fod yn ffordd o gyfathrebu â chynulleidfaoedd drwy bapurau newyddion lleol a chyhoeddiadau cymunedol, neu gallwch gyrraedd ymhellach i ffwrdd drwy hysbysebu mewn cyhoeddiadau cenedlaethol, boed yn gyhoeddiadau cyffredinol neu ddiddordeb arbennig. Dylech hefyd ystyried cytuno ar drefniant o ran hysbysebu megis y bydd y cyhoeddiadau, yn gyfnewid am brynu hysbysebu, hefyd yn cyhoeddi stori am eich digwyddiad ac o bosibl cystadleuaeth.

Mae gorsafoedd radio hefyd yn aml yn apelio at ddemograffeg ac ardaloedd daearyddol ac mae gan nifer hefyd faes gorchwyl budd y cyhoedd o fewn eu gweithrediadau. Mae hyn yn golygu, yn ogystal â phrynu hysbysebu, y gellir cysylltu â hwy i gynnal cyfweliadau, cystadlaethau a lledaenu gwybodaeth amser real am eich digwyddiad.

Fel y soniwyd uchod, efallai y bydd amrywiaeth o gyfryngau a fydd â diddordeb yn eich digwyddiad ac yn helpu i roi gwybodaeth am eich digwyddiad i'r cyhoedd. Fel uchod, mae angen i chi nodi'r cyfryngau y mae eich marchnad darged yn eu defnyddio a chanolbwyntio eich ymdrechion ar gyfryngau sympathetig fel cyfryngau lleol a chyfryngau diddordeb arbennig. Ystyriwch gynhyrchu cyfres o eitemau newyddion ar gyfer y cyfryngau gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n unigryw/gwahanol/nodedig am eich digwyddiad a sut y bydd o ddiddordeb i ddarllenwyr y cyfryngau sy'n cael eu targedu?

Wrth lunio deunyddiau, dylech hefyd ystyried defnyddio arddull ysgrifennu sy'n addas i'r cyfryngau a'r farchnad darged. Efallai y bydd hyd yn oed yn ddefnyddiol cynhyrchu pecynnau cyfryngau ar gyfer eich digwyddiad, yn cynnwys datganiadau i'r wasg, lluniau o'r digwyddiad, data ffeithiol am y digwyddiad a hyd yn oed cyfweliadau â pherfformwyr allweddol. Gall cynnal cystadlaethau sy'n cynnig tocynnau am ddim fod yn ffordd dda o annog gwahanol gyfryngau i roi sylw i'ch digwyddiad.

Gan ddefnyddio meintiau amrywiol, dylai posteri gynnwys gwybodaeth hanfodol, heb ormod o destun a delweddau. Mae gwybodaeth hanfodol ar gyfer posteri yn cynnwys enw digwyddiad, dyddiad digwyddiad, amseroedd digwyddiad, prisiau tocynnau – ymlaen llaw / wrth y drws / haenau, siopau tocynnau, lleoliad a chyfeiriad, rhif cyswllt / e-bost / gwefan / manylion y cyfryngau cymdeithasol a manylion noddwyr. Gellir defnyddio taflenni i gyfathrebu ystod debyg o wybodaeth i bosteri ond gan eu bod yn llai o faint ac yn aml yn ddwyochrog, gellir eu dosbarthu mewn amrywiaeth o leoedd neu eu postio drwy flychau llythyrau neu eu rhoi mewn pecynnau gwybodaeth.

Ar ôl rhoi eich cynllun marchnata ar waith, mae angen gosod a monitro meincnodau perfformiad o ran targedau sy'n ymwneud â gwerthiant tocynnau, cofrestriadau, ymholiadau, ymatebion, ymweliadau â gwefannau, dilynwyr, pobl yn hoffi postiadau ar gyfryngau cymdeithasol ac ymatebion perthnasol eraill. Dylech hefyd fonitro cyhoeddusrwydd a gynhyrchir drwy wahanol gyfryngau megis sylw yn y papur newyddion a'r radio, er mwyn dangos effaith i noddwyr.

Noder y dylid defnyddio'r data hwn i gymryd camau unioni lle bo angen, megis dyrannu mwy o arian i hyrwyddo a gweithredu gwahanol dechnegau, yn enwedig os nad yw gwerthiant yn cyrraedd eich targed a'ch amcanion. Dylech hefyd ddefnyddio cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn (os oes data ar gael) i nodi tueddiadau a materion sy'n codi cyn y digwyddiad ei hun.