Eiddo gwag

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/08/2023

Gall perchenogion eiddo annomestig sydd heb ei feddiannu fod yn agored i dalu ardrethi eiddo gwag a godir yn ôl 100 y cant o’r rhwymedigaeth arferol. Mae’r rhwymedigaeth yn dechrau pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 3 mis, neu, yn achos ffatrioedd a warysau, pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 6 mis.

Mae mathau penodol o eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi eiddo gwag:

  • Eiddo gyda gwerth trethiannol o dan £2,600
  • Adeiladau rhestredig
  • Eiddo ble mae meddiannaeth yn gwaharddedig gan y gyfraith