Sut i apelio

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/08/2023

Mae'n bosibl apelio yn erbyn prisiad eich eiddo, ond mae'r sail dros apelio yn gyfyngedig i'r sefyllfaoedd canlynol:

  • Lle credwch y dylai'r gwerth trethiannol gael ei newid gan fod cynnydd sylweddol neu ostyngiad sylweddol wedi bod yng ngwerth yr eiddo. Gall cynnydd sylweddol mewn gwerth ddigwydd yn sgil gwneud gwaith adeiladu, gwaith peirianneg neu waith arall ar yr adeilad. Gall gostyngiad sylweddol mewn gwerth ddigwydd yn sgil dymchwel unrhyw ran o'r adeilad, newid yng nghyflwr ffisegol yr ardal leol neu addasiadau eraill i'r adeilad.
  • Lle'r ydych yn dechrau neu yn gorffen defnyddio rhan o'r eiddo i redeg busnes neu bod y cydbwysedd rhwng y defnydd domestig a'r defnydd busnes yn newid;
  • Lle bo'r Swyddog Rhestru (Swyddog Prisio) wedi newid rhestr heb fod cynigiad wedi'i wneud gan drethdalwr;

Apeliadau yn erbyn Atebolrwydd i Dalu

Gellwch apelio yn ogystal os bernwch nad ydych yn atebol i dalu Trethi Annomestig oherwydd, er enghraifft, nad y chi yw'r meddiannwr, neu oherwydd bod eich eiddo yn eithriedig; neu bod y Cyngor wedi gwneud camgymeriad wrth gyfrif eich bil.

Os dymunwch apelio ar sail a nodir uchod, rhaid i chi roi gwybod yn gyntaf i'r Cyngor yn ysgrifenedig fel bod cyfle ganddynt i ailystyried yr achos. Os nad ydych yn hapus ag ymateb y Cyngor gellwch apelio ymhellach i'r Tribiwnlys Prisio. Nid yw gwneud apêl yn caniatáu i chi beidio â thalu trethi yn y cyfamser, ond os yw eich apêl yn llwyddiannus, bydd hawl gennych gael ad-daliad o'r trethi a dalwyd yn ormod gyda llog os yn gymwys.

Cynigion ac Apeliadau

Gellir cyflwyno apêl ynghylch y wybodaeth sydd yn Rhestr Brisio 2017 drwy gydol oes y rhestr sef rhwng 1af Ebrill 2017 a 31ain Mawrth 2021. Asesir pob safle masnachol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n pennu’r Gwerth Ardrethol; mae’r gwerth hwn yn cyfateb i werth rhent yr eiddo’n flynyddol ar y farchnad agored. Gallwch gysylltu â nhw ar 03000 505505

Dylid cyfeirio apeliadau i Y Swyddog Rhestru, Ty Nant, 180 Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1JR.