Sut i dalu eich treth busnes

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/08/2023

Rhaid talu Treth Anomestig mewn 10 rhandaliad misol o fis Ebrill, yn ddyledus ar y 15fed o bob mis neu cyn hynny. Os ydych yn dod yn gymwys i dalu Treth Anomestig yn ystod y flwyddyn bydd eich rhandaliadau'n cael eu haddasu yn ôl nifer y dyddiadau talu sy'n weddill.

Y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus i dalu yw trwy ddebyd uniongyrchol. Mae trefnu Debyd Uniongyrchol yn syml ac ni chodir tâl amdano, a gallwch ei ganslo ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu at eich banc neu gymdeithas adeiladu.

  • Rhaid sefydlu'ch Debyd Uniongyrchol i'w gymryd ar neu cyn y 15fed o'r mis.
  • Nid oes yn rhaid i chi adnewyddu eich Debyd Uniongyrchol bob blwyddyn.
  • Mae Debyd Uniongyrchol yn cael ei warantu gan y banciau a'r cymdeithasau adeiladu dan sylw ac felly os oes camgymeriad yn cael ei wneud byddwch yn cael ad-daliad llawn yn syth.

Byddwch yn derbyn llythyr yn nodi symiau, dyddiadau ac amlder y taliadau a fydd yn cael eu tynnu o'ch cyfrif ac o unrhyw newidiadau 10 diwrnod ymlaen llawn, er mwyn rhoi amser i chi wneud ymholiadau yn eu cylch os oes angen.

Os yw manylion y taliadau'n newid, bydd rhaid llanw ffurflen newydd Debyd Uniongyrchol i fewn ac mae'r newidiadau y cytunwch iddynt yn cael eu gwneud yn syth.

Gallwch chi sefydlu'ch Debyd Uniongyrchol dros y ffôn ar 01554 742330.

Gallwch hefyd agraffu'r ffurflen debyd uniongyrchol, cwblhewch yr holl adrannau a dychwelwch y ffurflen atom: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Tŷ Elwyn, Llanelli, SA15 3AP.

Lawrlwytho ffurflen debyd uniongyrchol

Rydym yn derbyn taliadau ar-lein. Bydd angen eich:

  • Cyfeirnod cyfrif
  • Enw'r cyfrif
  • Faint hoffech chi dalu

Rydym yn derbyn y mathau canlynol o gardiau credyd / debyd (Visa, Mastercard, Switch, Solo, Visa Delta).

Talu eich ardrethi busnes ar-lein

Gallwch talu yn un o swyddfeydd talu'r Cyngor:

Gwnewch eich siec yn daladwy i Cyngor Sir Caerfyrddin.