Trwydded gwaith stryd Adran 50

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Mae angen cais am Drwydded Gwaith Stryd Adran 50 pan fydd person neu sefydliad yn dymuno gosod cyfarpar newydd, neu gadw cyfarpar o dan y stryd ac i archwilio, cynnal, addasu, atgyweirio, newid neu adnewyddu'r cyfarpar, newid ei safle neu ei symud.

Mae 'stryd' yn briffordd a gynhelir ar draul y cyhoedd, a elwir yn aml yn briffordd fabwysiedig a gall gynnwys troedffyrdd, ymylon ffyrdd a ffyrdd cerbydau.

Mae enghreifftiau o gyfarpar y gellir eu gosod ar neu o dan briffyrdd a gynhelir yn gyhoeddus yn cynnwys cysylltiadau carthffosydd neu unrhyw bibellau eraill, ceblau pŵer a dwythellau, meinciau a chamerâu arolwg traffig. Ni fwriedir i'r enghreifftiau hyn fod yn gynhwysfawr nac yn rhagnodol.

Defnyddiwch y tabl isod i gyfrifo'r gost ar gyfer y math o drwydded sydd ei hangen arnoch.

Math o drwydedd  Ffi trwydedd 
I wasanaethu un ty annedd  £591
Gwasanaethu dau neu fwy o dai annedd a datblygiadau preswyl, fflatiau / fflatiau deulawr. £884 + £87 yr uned.
I wasanaethu datblygiad dibreswyl e.e diwydiannol, swyddfa, warws, storio, siopa, manwerthu, hamdden, adeiladau'r Cynulliad, Ysgolion ac adeiladau addysgol eraill.  £858
I gweini tir at ddiben defnydd amaethyddol / garddwriaethol.  £418
I gweini tir at ddibenion datblygiad diwydiannol £858
I trwsio / adnewyddu / cynnal a chadw cyfarpar presennol mewn Stryd lle na roddwyd Trwydded Gwaith Stryd dan Adrannau 181 i 183 o Ddeddf Priffyrdd 1980.Deddf Cyfleustodau Cyhoeddus a Gwaith Stryd 1950 a / neu weithdrefn drwyddedu arall o ran cyfarpar ar y stryd.  £591

Trwsio / adnewyddu / cynnal a chadw cyfarpar presennol lle mae Trwydded Gwaith Stryd gyfredol neu ddilys - Trwyddedai i ddangos prawf o Drwydded.

£259
Bydd ffi ychwanegol yn gymwys yn achos cloddiad sy'n fwy na 200 metr, pob hyd o 200 metr o fewn hyd y cloddiad hwnnw neu gydbwysedd hyd mor hir. £259

Rhaid i chi ein digolledu yn erbyn unrhyw hawliad mewn perthynas ag anaf, difrod neu golled sy'n deillio o gyflawni unrhyw waith a awdurdodwyd gan y caniatâd gan unrhyw berson. Ni ddylai'r indemniad a ddarperir gan y polisi fod yn llai na £10 Miliwn  ar gyfer unrhyw un ddamwain neu unrhyw hawliad.

Rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol ar y cais:

  • Enw eich cwmni yswiriant
  • Rhif polisi
  • Dyddiad mae'r polisi yn dod i ben 
  • Gwybodaeth polisi atebolrwydd cyflogwyr
  • Gwybodaeth am bolisi atebolrwydd cyhoeddus
  • Gwybodaeth am bolisi cerbydau modur

Anfonwch y ffurflen tystysgrif yswiriant ar ôl ei chwblhau gan eich cwmni yswiriant neu frocer ynghyd â'ch cais.

Rhaid i chi gynnwys y canlynol gyda'r cais:

  • Tystysgrif yswiriant
  • Copi o gynllun y Safle i Raddfa heb fod yn llai na 1/500 yn dangos eiddo'r ymgeisydd wedi'i farcio mewn coch a lleoliad arfaethedig cyfarpar mewn glas.
  • Copi o gynllun lleoliad i raddfa heb fod yn llai na 1/1250 neu 1/2500 neu 1 / 10,000 yn dangos lleoliad y safle mewn perthynas â'r hyn sydd o'i amgylch
  • Caniatewch o leiaf 28 diwrnod i'r cais gael ei brosesu

I gael rhagor o fanylion am y cais hwn gweler ein nodiadau cyfarwyddyd.

Nodiadau cyfarwyddydd(.pdf)  lawrlwytho ffurflen ymgais (.pdf)