Cartrefi symudol –Trwydded safle preswyl

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/12/2023

Lluniwyd Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i wella amodau ar safleoedd a rhoi rhagor o hawliau a mwy o warchodaeth i berchnogion cartrefi symudol sy’n byw yn barhaol ar safle preswyl.

Mae’r rhan fwyaf o’r preswylwyr yn berchen ar eu cartrefi symudol fel eu cartref parhaol ac yn talu ffi llain i berchennog y safle. Mae rhai o’r preswylwyr yn denantiaid sy’n rhentu’r cartref symudol y maent yn byw ynddo. Yn gyffredinol, mae preswylwyr cartrefi symudol yn ddibynnol ar weithredwr y safle i sicrhau cyflenwad trydan, nwy a dŵr dibynadwy, ac am yr holl waith cynnal a chadw a gwelliannau i’r parc.

Dyma’r newidiadau allweddol:

  • Bydd gofyn i berchnogion safle wneud cais am drwydded gan eu hawdurdod lleol i weithredu safle. Bydd y drwydded yn para hyd at bum mlynedd.
  • Bydd angen i reolwyr safle lwyddo mewn prawf ‘person addas a phriodol’ cyn y rhoddir trwydded iddynt.
  • Ni fydd modd mwyach i berchnogion safle rwystro cartref symudol rhag cael ei werthu. Bydd perchennog y cartref symudol yn rhydd i werthu eu cartref pe dymunent wneud hynny.
  • Dim ond yn unol â Mynegai Prisiau Defnyddwyr y gall ffioedd llain gynyddu.
  • Bydd modd i berchnogion safle a phreswylwyr apelio i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl mewn amgylchiadau penodol.
  • Bydd modd i awdurdodau lleol archwilio safleoedd a chyflwyno hysbysiad cosb benodedig i berchnogion safle os na chaiff yr amodau eu cadw’n briodol ar y safle.
  • Mewn achosion mwy difrifol, bydd modd i awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i berchnogion y safle i wneud yn siŵr y caiff amodau’r safle eu cynnal.
  • Bydd gan berchnogion safle 12 mis i lunio a gosod rheolau safle unigol mewn ymgynghoriad â’r preswylwyr.

Mae cartrefi symudol yn amrywio o ran maint a ffurf – mae rhai’n edrych fel carafán, ac eraill yn edrych yn debycach i fyngalo. Caiff cartref symudol ei ddiffinio fel strwythur a ddyluniwyd i fyw ynddo ond y gellir ei symud (er enghraifft, ei dynnu neu ei gludo ar drelar) neu gerbyd modur a ddyluniwyd i fyw ynddo. 

Maint mwyaf posibl cartref symudol yw 20m o hyd, 6.8m o led, 3.05m o uchder (y tu mewn).  Os oes cyntedd neu estyniad wedi’i ychwanegu, gallai hyn olygu ei fod y tu allan i’r diffiniad cyfreithiol hwn.

Os ydych yn berchen ar safle cartrefi symudol, mae’n rhaid ichi wneud cais am drwydded.

Ein nod yw prosesu eich trwydded o fewn deufis i dderbyn cais wedi’i gwblhau. Byddwn yn gwirio bod gennych y caniatâd cynllunio angenrheidiol a’ch dogfennau. Mewn rhai amgylchiadau gallai hyn gael ei ymestyn, ond byddwn yn cysylltu â chi i esbonio os mai dyma fydd yr achos.

Lawrlwythwch ffurflen gais  (.pdf)

Mae’r ffi am drwydded safle yn dibynnu ar nifer y lleiniau sydd ar y safle. Mae lefel y ffioedd a godir wedi’i hamlinellu yn ein polisi ffioedd.

Lawrlwythwch bolisi ffioedd trwydded safle (.pdf)

Os yw gwersyll neu barc carafanau wedi bod yn weithredol heb ganiatâd cynllunio, gallai fod yn bosibl gwneud cais am Dystysgrif Cyfreithlondeb yn seiliedig ar dystiolaeth hanesyddol. Cysylltwch â’r adran gynllunio berthnasol i gael mwy o wybodaeth:

Fel perchennog safle cartrefi symudol mae’n rhaid ichi lwyddo mewn prawf ‘person addas a phriodol’ cyn y bydd modd ichi reoli’r safle. Byddwn yn asesu p’un a ydych chi neu unrhyw reolwr safle:

  • Wedi eich cael yn euog o unrhyw drosedd berthnasol
  • Wedi bod yn destun unrhyw gamau gorfodi perthnasol
  • P’un a wrthodwyd trwydded yn flaenorol i chi neu unrhyw reolwr safle neu b’un a yw eich trwydded wedi’i diddymu yn flaenorol

Gallwn wrthod rhoi trwydded pe byddai gennych hanes o droseddau neu achosion o dorri amodau trwydded; pe byddai eich trwydded safle wedi’i diddymu yn y tair blynedd diwethaf os nad oes caniatâd cynllunio; pe byddai’r llysoedd wedi rhwystro trwydded rhag cael ei rhoi, neu am unrhyw resymau eraill a nodir yn Neddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 a rheoliadau cysylltiedig. 

Pe gwrthodwn roi neu drosglwyddo trwydded, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi esboniad.

Mae amodau’r drwydded sy’n gysylltiedig â thrwydded safle yn seiliedig ar Safonau Enghreifftiol 2008 ar gyfer Safleoedd Carafanau yng Nghymru (.pdf). Maent wedi’u cynnwys yn amodau’r drwydded i hybu’r hyn sydd fel arfer i’w ddisgwyl ar safleoedd fel mater o arfer da.

Maent yn berthnasol i garafanau preswyl yn unig, a gallant gwmpasu meysydd megis gosodiad parciau cartrefi symudol a darparu cyfleusterau, gwasanaethau ac offer ar eu cyfer. Bydd apeliadau ynglŷn ag amodau trwydded safle yn mynd i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl.

Cyflwynwyd nifer o newidiadau yn y safonau hyn, ac mae’r rhai mwyaf sylweddol yn ymwneud â’r canlynol:

  • ymdrin â ffiniau safle parc
  • egluro’n well yr hyn y dylid ei ganiatáu a’r hyn na ddylid ei ganiatáu yn y chwe metr o ofod rhwng cartrefi
  • caniatáu i un car gael ei barcio rhwng cartrefi
  • bod wyneb caled o goncrit yn ofynnol i bob cartref
  • ymestyn gofynion draenio’r parc i gynnwys y llain
  • sicrhau bod ardaloedd cymunol y safle yn cael eu cynnal mewn cyflwr da
  • gosod y safonau gofynnol o ran cyflenwi dŵr, trydan, draenio a glanweithdra
  • egluro mai pan fo plant yn byw ar y parc yn unig y mae’n ofynnol darparu gofod hamdden

Mae gennym bwerau i gymryd camau gorfodi mewn achosion o dorri amodau’r drwydded.  Fel perchennog safle, gellid cyflwyno hysbysiad cydymffurfio ichi sy’n rhestru’r camau gofynnol i fynd i’r afael a’r materion hyn. Pe na chydymffurfir â’r telerau, gallem benderfynu erlyn mewn Llys Ynadon.

Mewn argyfwng – os oes risg ar fin digwydd i iechyd a diogelwch eraill ac nad ydych chi, fel perchennog y safle, wedi cydymffurfio – gallem benderfynu gweithredu ac adennill y gost o ymgymryd ag unrhyw waith. Byddai gennych yr hawl i apelio pe ystyriwch fod ein gweithredoedd yn afresymol neu pe credwch nad oedd eich preswylwyr mewn risg o niwed difrifol oedd ar fin digwydd.

Fel perchennog y safle, cewch osod eich rheolau safle eich hun i helpu’r gymuned i redeg yn esmwyth. Bydd hyn yn ffurfio rhan o’r contract rhyngoch chi a pherchennog y cartref – gallai’r rhain fod yn debyg i amodau’r drwydded. Mae’n ofynnol inni gadw a chyhoeddi cofrestr o’r rheolau safle pan fyddwch yn ein hysbysu. Ond nid ydym yn gorfodi’r rheolau safle hyn.  

Rhaid ichi ddefnyddio ffurflenni rhagnodedig i newid eich rheolau safle, lawrlwythwch ac argraffwch y canlynol: