Pa drwyddedau sydd ei angen arnoch i fasnachu yn yr awyr agored?

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/03/2024

Mae llawer o fusnesau yn ystyried sut i ddefnyddio'r ardal y tu allan i'w safle er mwyn bodloni'r canllawiau newydd o ran cadw pellter cymdeithasol. Mae caffis, bwytai a thafarndai yn wynebu colli hyd at 30% o'r lleoedd y gellir eu cynnig a byddai'r gallu i ddefnyddio ardal yn yr awyr agored yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran hyfywedd y busnes i ail-agor.

Mae siopau manwerthu yn ystyried ffyrdd o reoli ciwiau ar gyfer eu cwsmeriaid drwy neilltuo ardaloedd penodol a darparu cadeiriau i gwsmeriaid eu defnyddio wrth iddynt aros. Mae busnesau lleol wir yn mynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i addasu er mwyn bodloni'r mesurau newydd hyn a pharhau i fasnachu.

Fel Awdurdod Lleol, rydym am wneud popeth yn ein gallu i'ch cefnogi. Fodd bynnag, mae gennym ddyletswydd hefyd i sicrhau bod masnachu yn yr awyr agored yn cael ei wneud yn ddiogel, yn gyfreithlon a heb effeithio ar fusnesau/preswylwyr cyfagos nac achosi problemau i gerddwyr neu ddefnyddwyr ffyrdd. Yn dibynnu ar yr hyn yr hoffech ei wneud, efallai y bydd angen arnoch drwydded caffi stryd, Trwydded masnachu ar y stryd, trwydded safle neu welliant i'ch trwydded bresennol a/neu gofrestru o ran bwyd.

Er mwyn cynorthwyo busnesau yn ystod y cyfnod anodd hwn rydym yn symleiddio'r broses ymgeisio. Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Manylion y busnes – enw, cyfeiriad, math o fusnes
  • Cynlluniau manwl sy'n dangos union leoliad y man lle'r ydych yn bwriadu masnachu yn yr awyr agored
  • Nifer y byrddau a'r cadeiriau
  • Mesuriadau'r ardal fydd yn cael ei neilltuo.
  • Lled y llwybr troed fyddai'n weddill ar ôl i ddodrefn gael eu hychwanegu
  • Os byddwch yn gweini bwyd neu alcohol
  • Pa drwyddedau sydd gennych eisoes

Bydd eich cais i fasnachu yn yr awyr agored yn cael ei adolygu, a byddwn yn anfon yr holl ffurflenni perthnasol atoch ac yn anelu at brosesu eich cais cyn gynted â phosibl.

Ffi drwydded caffi stryd yw £34.00 y gadair.

Cais i fasnachu yn yr awyr agored

nodiadau cyfarwyddydd