Polisi trwyddedu

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/02/2024

Mae ein polisi trwyddedu wedi cael ei ddatblygu yn dilyn ymgynghori â chynrychiolwyr deiliaid trwyddedau, awdurdodau cyfrifol, preswylwyr lleol a'u cynrychiolwyr.

Mae pedwar prif ddiben i'r Polisi Trwyddedu, sef:

  • Cadarnhau, ymhlith aelodau etholedig y pwyllgor trwyddedu, ffiniau a grym yr awdurdod lleol, a rhoi paramedrau iddynt ar gyfer gwneud eu penderfyniadau.  Bydd modd i'r pwyllgor brofi'r cais yn erbyn meini prawf a nodwyd yn y polisi ac os bydd angen, ychwanegu amodau at y rhai a amlinellwyd yn yr atodlen weithredu.
  • Hysbysu'r rheiny sy'n gwneud cais am y drwydded ynghylch y paramedrau y mae'r awdurdod yn eu defnyddio i wneud penderfyniad ynglŷn â thrwydded, rhoi enghreifftiau o arferion rheoli da ac felly sut y mae safle trwyddedig yn debygol o fod yn gallu gweithredu o fewn ardal (sylwch fod yn rhaid i bob achos gael ei ystyried yn unigol).
  • Hysbysu trigolion a busnesau ynghylch y paramedrau y bydd yr awdurdod yn eu defnyddio wrth wneud penderfyniadau trwyddedu, ac felly sut yr ymdrinnir â'u hanghenion
  • Hysbysu llys barn ynghylch sut y daeth y Cyngor i'w benderfyniadau pan gânt eu herio mewn llys, a chefnogi'r penderfyniadau hyn.

Fe'ch cynghorir i gyfeirio at y polisi trwyddedu cyn paratoi a chyflwyno eich ceisiadau oherwydd byddwn ni'n dilyn y polisi hwn wrth benderfynu ar eich cais.

Sylwch fod rhannau penodol o Sir Gaerfyrddin yn destun polisi effaith gronnol.

Fel yr awdurdod trwyddedu ar gyfer Sir Gaerfyrddin, mae'n ofynnol i ni gyflawni ein swyddogaeth o dan y ddeddf gyda'r bwriad o hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, sef:

  • Atal troseddau ac anhrefn
  • Diogelu'r cyhoedd
  • Atal niwsans cyhoeddus
  • Amddiffyn plant rhag niwed

Wrth gyflawni ein swyddogaethau, mae'n rhaid i ni hefyd ddilyn ein polisi trwyddedu yn ogystal ag unrhyw ganllawiau statudol a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 182 o'r Ddeddf.

Lawrlwythwch y Polisi Trwyddedu (.pdf)