Trwydded cerbyd hurio preifat

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Gall y cerbydau hurio preifat fod yn geir salŵn neu'n gerbydau sy'n cludo nifer mwy o bobl a bysiau mini. Nid oes ganddynt arwyddion ar y to ond gellir eu hadnabod wrth blât trwyddedu melyn hirsgwar ar y bympar ôl a sticer melyn crwn ar y ddau ddrws blaen.

Mae'n rhaid i gerbydau hurio preifat gael eu profi gan ein gorsaf brofi lle cânt eu profi yn unol â'n safon benodedig.

Cyn cyflwyno eich cais, fe'ch cynghorir i gysylltu â ni i drafod pa mor addas yw eich cerbyd yn ogystal â thrafod ei yswiriant.

Gallwch anfon ceisiadau atom drwy'r post, fodd bynnag rydym yn eich annog i gyflwyno eich ceisiadau yn bersonol yn un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid. Bydd angen i chi ddarparu'r eitemau canlynol:

  • Ffurflen Gais wedi'i chwblhau (gyda'r holl adrannau wedi'u cwblhau)
  • Llyfr Log y Cerbyd (V5)
  • MOT dilys (tair blynedd o'r dyddiad cofrestru am y tro cyntaf)
  • Ffi ar gyfer y drwydded
  • Yswiriant ar gyfer defnydd Hurio Preifat

Gallwch anfon ceisiadau atom drwy'r post, fodd bynnag rydym yn eich annog i gyflwyno ceisiadau yn bersonol yn un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid. Bydd angen i chi ddarparu'r eitemau canlynol:

  • Ffurflen gais wedi’i chwblhau
  • Ffi drosglwyddo
  • Dogfen yswiriant ddilys
  • Dogfen cofrestru cerbyd / bil gwerthiant

Lawrlwythwch ffurflen gais (.pdf)

Mae dyletswydd arnom, fel corff cyhoeddus, i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus a weinyddir gennym ac i'r diben hwn cawn ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir inni ar ffurflenni cais i atal a darganfod twyll. Gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn.