Trwydded anifeiliaid

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/10/2023

Mae cyfrifoldeb ar swyddogion Lles Anifeiliaid i wneud y canlynol:

  • rhoi cyngor ynghylch agweddau ar drwyddedau lles anifeiliaid
  • archwilio a rhoi trwyddedau i safleoedd sy'n destun deddfwriaeth anifeiliaid megis cynelau lletya cŵn, llety cathod, siopau anifeiliaid anwes, sefydliadau marchogaeth ac eraill
  • ymchwilio i gwynion ynghylch lles anifeiliaid yn y safleoedd hyn
  • cymryd camau ffurfiol yn erbyn troseddwyr lle mae camau eraill heb lwyddo ac ymchwilio i gwynion ynghylch gweithgareddau anghyfreithlon

Mae angen trwyddedau ar gyfer:

  • sefydliadau marchogaeth
  • cadw anifeiliaid peryglus/anifeiliaid gwyllt
  • cynelau lletya cŵn
  • llety cathod
  • sefydliadau bridio cŵn
  • siopau anifeiliaid anwes