Trwydded busnesau rhyw

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Rydym wedi mabwysiadu atodlen tri i Ddeddf Llywodraeth Leol (Amrywiol Ddarpariaethau) 1982 (fel y'i newidiwyd gan  adran 27 o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009) sy'n caniatáu i ni drwyddedu siopau rhyw, sinemâu rhyw a mannau cynnal adloniant rhywiol yn Sir Gaerfyrddin. Cyfeirir at y cyfryw safleoedd fel busnesau rhyw.

Ar hyn o bryd mae busnesau rhyw yn perthyn i un o dri chategori:

  • Siop rhyw: Siop rhyw yw unrhyw safle a ddefnyddir ar gyfer busnes sy'n cynnwys cyflenwi neu arddangos eitemau rhyw i raddau sylweddol
  • Sinema rhyw: Sinema rhyw yw unrhyw safle a ddefnyddir, i raddau sylweddol, ar gyfer arddangos darluniau byw sy'n ymwneud yn bennaf â phortreadu gweithgaredd rhywiol neu sydd wedi'u bwriadu i ysgogi neu annog gweithgaredd rhywiol
  • Man cynnal adloniant rhywiol: Mae trwydded man cynnal adloniant rhywiol yn ofynnol ar gyfer unrhyw safle lle darperir unrhyw berfformiad byw neu arddangosiad byw yn noeth gerbron cynulleidfa fyw er budd ariannol y trefnydd neu'r sawl sy'n darparu'r adloniant

Wrth benderfynu a oes angen trwydded ar gyfer adloniant byddwn yn barnu pob achos yn ôl ei haeddiant, ond bydd fel arfer yn cynnwys y canlynol (er na fydd wedi'i gyfyngu iddynt), dawnsio côl, dawnsio polyn, dawnsio bwrdd, sioeau stripio, sioeau llygadu a sioeau rhyw byw.

Mae'n bosibl y bydd angen trwydded o hyd o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar adloniant oedolion nad yw'n perthyn i'r dosbarth 'adloniant perthnasol'. Bydd gweithgareddau cysylltiedig megis gwerthu alcohol yn gorfod cael eu hawdurdodi ar wahân o dan y Ddeddf Trwyddedu.

Gwneud cais am drwydded

Fe'ch cynghorir i gysylltu â ni i drafod eich cynnig cyn cyflwyno cais. Hefyd fe'ch cynghorir i ddarllen y dogfennau cyfarwyddyd a pholisi perthnasol, oherwydd gall gweithgareddau sy'n digwydd ar y safle fod yn rhai y gall fod angen eu trwyddedu o dan ddeddfwriaeth wahanol megis Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Hapchwarae 2005.

Dylid cyflwyno eich cais gorffenedig, ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol angenrheidiol a'r ffi briodol ar gyfer y cais, i'n hadain drwyddedu. Gallwch dalu drwy siec, yn daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin' neu dros y ffôn gyda cherdyn debyd neu gredyd ar 01267 234567.

Mae dyletswydd arnom, fel corff cyhoeddus, i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus a weinyddir gennym ac i'r diben hwn cawn ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen hon i atal a darganfod twyll. Gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn.

Lawrlwythwch ffurflen gais (.pdf)