Trwydded caffi stryd

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Mae angen trwydded caffi stryd ar gyfer gosod byrddau a chadeiriau ar droedffyrdd ac ardaloedd cerddwyr.

Rydym yn cefnogi’r defnydd o gadeiriau a byrddau y tu allan i gaffis, tafarnau a thai bwyta lle bo digon o le.

Mae'n bwysig bod busnesau'n cadw at reoliadau / canllawiau Covid 19 sy'n caniatáu lle ar gyfer pellhau cymdeithasol a mesurau lliniaru eraill mewn lleoliad awyr agored
megis glanhau a diheintio dodrefn / gwrthrychau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml rhwng pob defnydd.

Er mwyn sicrhau nad ydynt yn peri problemau i gerddwyr a/neu gerbydau gwasanaethau a cherbydau brys, mae’n hanfodol eich bod yn cael caniatâd a’ch bod yn cadw at yr amodau sy’n cael eu nodi yn y drwydded. Mae’r amod sy’n gofyn am amgylchynu'r man eistedd yn arbennig o bwysig er mwyn arwain pobl ddall a rhannol ddall, a bydd o gymorth hefyd i bobl oedrannus a rhieni â phlant ifanc.

Mae’r tudalen hwn yn esbonio sut i wneud cais am ganiatâd a pha ystyriaethau y bydd yn rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu ar geisiadau am fyrddau a chadeiriau.

Mae angen mannau eistedd cael i hamgylchynu mewn dull sydd o fudd i’r rhai sy’n mynd heibio yn ogystal â’r rhai sy’n mynychu’r lleoedd hyn, a chynnal amgylchedd o safon uchel. Mae’r darluniau canlynol yn dangos y ffordd orau o amgylchynu mannau eistedd gan ddefnyddio deunyddiau gwahanol megis blychau plannu blodau, pyst, rhaffau a rheiliau tapio ac ati.

  • Uchder - Mewn enw dylai’r man caeedig fod yn 1.0 metr o uchder, yn amodol ar gytuno ar yr union fanylion.
  • Lliw - Rhaid i’r lliw a ddefnyddir i nodi’r ffin fod mewn lliw ac arlliw cyferbyniol i’w gefndir a’r byrddau a’r cadeiriau sydd i’w defnyddio.
  • Bwrdd tapio - Rhaid cynnwys bwrdd tapio a rheilen uchaf sefydlog ar y pennau cyfeiriadol, a rhaid i'r bwrdd tapio fod tua 150mm o drwch ac mor agos i’r ddaear â phosib. Mae rheilen uchaf rhaff yn dderbyniol o un pen i’r llall ar ei hyd h.y. yn gyfochrog â’r llwybr troed. Dylid gosod y bwrdd tapio yn gadarn rhwng y pyst unionsyth a bydd yn gweithredu fel canllaw i ymyl y man caeedig.
  • Bylchau plannu blodau - Byddwn yn ystyried y defnydd o flychau plannu blodau i amgylchynu byrddau a chadeiriau ar sail unigol er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn bodloni’r meini prawf uchod.
  • Biniau Sbwriel - Bydd yn rhaid gosod y rhain ym mhob man caeedig hefyd a rhaid iddynt fod mewn lliw cyferbyniol i’w cefndir.
  • Gellir defnyddio parasolau / ymbarelau ynghyd â’r uchod, ond ni ddylai canopïau ymestyn y tu hwnt i’r man trwyddedig.

Mae’n rhaid darparu llwybr troed agored 1.80 metr o led fel y gall cerddwyr symud yn ddiogel ac yn hwylus. Caiff y pellter hwn ei fesur o ymyl y man trwyddedig i unrhyw nifer sylweddol o gelfi stryd (megis polion lampau, bolardiau, rheiliau amddiffyn cerddwyr, cyrbau ac ati). Lle bo nifer fawr o gerddwyr, efallai y bydd angen mwy o le o ran y llwybr troed.

Mewn strydoedd i gerddwyr yn unig mae’n rhaid i isafswm lled o 1.8 metr neu ddwy ran o dair lled cyfan y briffordd gyhoeddus, pa un bynnag yw’r mwyaf, fod yn rhydd ac yn agored er mwyn hwyluso symudiadau cerddwyr. Gellir cynyddu’r ffigur hwn lle bo nifer fawr o gerddwyr. Bydd y llwybr agored yn gorwedd yn gyfartal bob ochr i linell ganol y llwybr troed er mwyn gwneud yn siŵr fod y lle sydd ar gael i fyrddau a chadeiriau yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng yr adeiladau ar y naill ochr a’r llall i’r stryd.

Mewn strydoedd sydd ar gael i gerddwyr yn unig ar sail ran‑amser, gellir cyfyngu'r defnydd o’r man trwyddedig i gyfnodau arbennig er mwyn hwyluso anghenion mynediad gwasanaethau ac mewn achosion brys.

Mae'n rhaid i unrhyw gynlluniau beidio â pheryglu unrhyw lwybr canllaw botymog.

Mae'n rhaid cynnal llwybr agored tua 1.2 metr o led o leiaf er mwyn galluogi pobl i fynd i mewn ac allan o adeiladau siopau, ac mae'n rhaid i'r man trwyddedig beidio â bod yn fwy na lled yr adeilad.

Pe byddai’r man eistedd caeedig yn cael ei leoli gerllaw’r ffordd yna byddai'n rhaid cynnal lle clir o 450mm o leiaf rhwng yr atalfa a’r ffordd a byddai angen cau’r man ar bob un o’r pedair ochr.

Yna byddai isafswm yr anghenion lled llwybr troed yn berthnasol rhwng y man trwyddedig a’r adeilad.

Ffi drwydded yw £34.00 y gadair.

Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Manylion y busnes – enw, cyfeiriad, math o fusnes
  • Cynlluniau manwl sy'n dangos union leoliad y man lle'r ydych yn bwriadu masnachu yn yr awyr agored
  • Nifer y byrddau a'r cadeiriau
  • Mesuriadau'r ardal fydd yn cael ei neilltuo.
  • Lled y llwybr troed fyddai'n weddill ar ôl i ddodrefn gael eu hychwanegu
  • Os byddwch yn gweini bwyd neu alcohol
  • Pa drwyddedau sydd gennych eisoes

Cais i fasnachu yn yr awyr agored