Trwydded delwyr metel sgrap

Diweddarwyd y dudalen ar: 24/11/2023

Er mwyn gweithredu fel deliwr neu gasglwr metel sgrap yn Sir Gaerfyrddin mae'n rhaid i chi gael trwydded wrthym. Mae gweithredu heb drwydded briodol yn drosedd y gallwch gael eich erlyn amdani a derbyn dirwy o hyd at £5,000.

Mae dau fath o drwydded:

Trwydded Safle:

  • Byddwn yn darparu trwydded safle os yw eich safle wedi'i leoli yn Sir Gaerfyrddin.
  • Nodwch gyfeiriad llawn pob safle lle'r ydych chi, fel trwyddedai, yn bwriadu gweithredu eich busnes fel deliwr metel sgrap. Yn ogystal, rhaid enwi rheolwr safle ar gyfer pob safle.
  • Bydd angen trwydded safle arnoch er mwyn tynnu darnau oddi ar gerbydau i'w gwerthu neu eu defnyddio i drwsio cerbydau eraill.

Trwydded Casglwr Teithiol:

  • Bydd trwydded casglwr teithiol a roddir gennym ni yn awdurdodi’r trwyddedai i weithredu fel casglwr yn Sir Gaerfyrddin yn unig.
  • Os ydych chi'n bwriadu casglu sgrap o ardal unrhyw awdurdod lleol arall mae'n rhaid i chi gael trwydded ar wahân gan yr awdurdod lleol perthnasol.
  • Bydd angen trwydded Casglwr Teithiol arnoch er mwyn cludo cerbydau diwedd oes.

Dim ond un math o drwydded y gallwch chi ei dal (Trwydded Safle neu Gasglwr) a fydd yn para am dair blynedd. Bydd y dyddiad dod i ben yn cael ei ddangos ar eich trwydded.

Yn ogystal bydd angen ichi gael Trwydded Cludo Gwastraff wrth Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gallu casglu metel sgrap.

Nid oes cyfyngiad o ran ble gallwch gludo, pwyso neu werthu eich metelau.

I grynhoi, diffiniad y Ddeddf o “ddeliwr metel sgrap” yw rhywun sy'n rhedeg busnes fel deliwr metel sgrap, p’un a yw hynny wedi’i awdurdodi gan drwydded neu beidio. Mae’n nodi ymhellach fod metel sgrap yn cynnwys y canlynol:

  • Unrhyw hen fetel neu ddeunydd metelig gwastraff neu wedi’i waredu, ac
  • Unrhyw gynnyrch, eitem neu gydosodiad a wnaed o fetel neu sy’n cynnwys metel, ac sydd wedi torri, wedi treulio, neu y mae’r deiliad diwethaf yn barnu ei fod wedi cyrraedd diwedd ei oes ddefnyddiol

Ni fernir bod y canlynol yn fetel sgrap:

  • Aur
  • Arian
  • Aloi y mae 2 y cant neu fwy o’i bwysau yn aur neu’n arian

Cyn cyflwyno ffurflen gais, mae'n rhaid ichi:

Bydd y cais yn cymryd hyd at wythnos neu bythefnos i'w brosesu. Mae'n rhaid ichi anfon bob dogfen ynghyd â'r cais, neu, ni fydd modd inni ei brosesu.

Mae'n rhaid ichi adnewyddu eich Trwydded Safle a Chasglwr Teithiol bob tair blynedd. Dylech gysylltu â ni o leiaf ddau fis cyn i'ch trwydded ddod i ben er mwyn rhoi amser inni brosesu'ch cais adnewyddu.

Os ydych yn gwneud cais am Drwydded Casglwr Teithiol: Ar ôl cwblhau'r cais, byddwn yn anfon eich Trwydded Casglwr a dau 'Lyfr Cofnodion Delwyr Metel Sgrap Cofrestredig' atoch. Rhaid cadw cofnodion am ddwy flynedd gan ddechrau o'r diwrnod y gwnaed y cofnod olaf yn y llyfr.

Os oes angen rhagor o Lyfrau Cofnodi Delwyr Metel Sgrap arnoch, gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 01267 234567. Cost y llyfrau yw £5 yr un.

Ffurflen Gais     Ffurflen Gydsynio

Rhoddwyd pwerau i ni a'r heddlu fynd i mewn i safleoedd a’u harchwilio. Fel awdurdod trwyddedu mae'n rhaid inni fod yn fodlon eich bod chi'n berson addas i redeg busnes deliwr metel sgrap. Wrth ystyried addasrwydd, rhaid inni ymgynghori â’r canlynol:

  • Unrhyw awdurdod lleol arall, os ydych hefyd yn gwneud cais iddynt hwy
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr heddlu

Byddwn yn asesu’r meini prawf canlynol:

  • A ydych chi neu unrhyw reolwr safle wedi eich cael yn euog o unrhyw ‘drosedd berthnasol’
  • A ydych chi neu unrhyw reolwr safle wedi bod yn destun unrhyw gamau gorfodi perthnasol
  • Unrhyw achos blaenorol o wrthod rhoi neu adnewyddu trwydded metel sgrap
  • Unrhyw achos blaenorol o wrthod hawlen neu gofrestriad amgylcheddol
  • Unrhyw achos blaenorol o ddirymu trwydded metel sgrap
  • A ydych chi wedi dangos y bydd gweithdrefnau digonol i gydymffurfio â’r Ddeddf

Bydd pob un o’r uchod yn berthnasol i unrhyw gyfarwyddwr neu ysgrifennydd cwmni, os nad ydych yn unigolyn.

Daeth Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 i rym ar 1 Hydref 2013. Mae’r Ddeddf hon yn cynnwys delwyr metel sgrap a gweithredwyr arbed rhannau moduron ill dau o dan un trefniant trwyddedu. Rydym yn parhau i weithredu fel prif reoleiddiwr, ond mae’r Ddeddf newydd yn rhoi mwy o bwerau, megis gwrthod, neu ddirymu trwydded os bernir bod y deliwr yn anaddas.

Os ydych chi'n ddeliwr metel sgrap mae'n rhaid i chi arddangos copi o'ch trwydded bob amser:

  • Yn achos gweithredwyr safle rhaid iddi fod mewn man amlwg, mewn ardal y mae’r cyhoedd yn mynd iddo
  • Yn achos casglwyr teithiol, rhaid iddi fod mewn lle y gall person y tu allan i’r cerbyd ddarllen y drwydded yn hawdd

Mae methu â bodloni'r gofynion hyn yn drosedd.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddelwyr metel sgrap wirio pwy yw’r person yr ydych yn derbyn metel oddi wrtho/wrthi a'r cyfeiriad. Rhaid cyflawni’r gwirio hyn trwy gyfeirio at ddogfennau dibynadwy, megis pasbort, trwydded yrru a bil banc neu gyfleustod. Mae'n drosedd peidio â chanfod pwy yw’r gwerthwr a gwirio hynny.

Rhaid cadw cofnodion ynghylch unrhyw fetel sgrap a dderbynnir, gwerthir, cyfnewidir neu a waredir gennych fel rhan o’ch busnes. Mae hyn yn cynnwys:

  • Y math o fetel sy’n cael ei brynu
  • Amser a dyddiad y trafodyn
  • Gwybodaeth bersonol am y gwerthwr
  • Pwy sy’n gweithredu ar ran y deliwr
  • Prawf o’r trafodyn na ddefnyddiwyd arian parod ar ei gyfer

Ni allwch ddefnyddio arian parod i brynu a gwerthu metel sgrap gan nad yw Deddfwriaeth Delwyr Metel Sgrap 2013 yn caniatáu defnyddio arian parod yn y diwydiant hwn.

Cais Trwydded safle Trwydded casglwr Teithiol
Newydd £380 £260
Adnewyddu £320 £260
Amrywio £60 £60