Trwydded i blannu, blodeuo llwyni neu goed

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/01/2023

Byddwn ond yn prosesu ceisiadau gan gynghorau tref neu cynghorau cymuned. 

Fel i wneud cais?

I wneud cais fydd angen:

  • Enw ffordd a gynllun union leoliad y safle
  • Lled y ffordd gerbydau
  • Lled yr ymylon priffyrdd
  • Rhowch fanylion llawn ynghylch y coed, llwyni, planhigion, gwair ac ati y bwriedir eu plannu, gan gynnwys uchder llawn ar ôl tyfu, ymlediad ac aeddfedrwydd coed a llwyni a dyfnder cloddio

Amodau'r Hawlen

  • Yn achos argyfyngau, mae'r Cyngor Sir a'r darparwyr gwasanaeth yn cadw'r hawl i gael gwared ar unrhyw blanhigion ac ni fyddant yn atebol i dalu am unrhyw ddifrod.
  • Ni ddylai'r gwaith plannu rwystro gwelededd gyrwyr wrth gyffordd a/neu droeon, neu fynedfeydd preifat.
  • Rhoddir gwybod i ymgeiswyr na ddylai unrhyw waith plannu amgáu'r briffordd a bod y tir, sydd dan sylw yn y drwydded, yn dal i fod yn briffordd y mae'r cyhoedd â'r hawl i'w defnyddio.
  • Cyfrifoldeb deiliad y drwydded yw cynnal a chadw'r gwaith plannu.
  • Bydd y drwydded wedi'i hatodi i'r papurau yn ymwneud â'r safle a bydd yn parhau mewn grym hyd nes y bydd yr awdurdod yn ei thynnu yn ôl. yn y drwydded, yn dal i fod yn briffordd y mae'r cyhoedd â'r hawl i'w defnyddio.
  • Amodau ychwanegol yn ymwneud ag unrhyw gymeradwyaethau.

Ffurflen Gais

Ni chodir tâl am y cais hwn. Dylech ganiatáu 6 i 8 wythnos i'ch cais gael ei asesu. Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau at gofalstrydoedd@sirgar.gov.uk.

LAWRLWYTHWCH FFURFLEN GAIS (.PDF)