Trwydded masnachu ar y stryd

Diweddarwyd y dudalen ar: 19/08/2020

Rydym wedi dynodi strydoedd penodol o fewn Sir Gaerfyrddin naill ai fel strydoedd trwyddedig lle mae angen hawlen i fasnachu ar y stryd, neu strydoedd gwaharddedig, lle na chaniateir masnachu ar y stryd. Mae rhestr fanwl o'r ddau fath o strydoedd yn cael ei roi yn y pecyn cais isod.

Sut i wneud cais

Fe'ch cynghorir i ddarllen y canllawiau perthnasol a chysylltu â'r adran drwyddedu i drafod eich cynigion cyn cwblhau cais.

Rhaid i chi wneud eich cais yn bersonol yn un o'n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd angen i chi ddarparu'r eitemau canlynol:

  • Ffurflen gais wedi'i chwblhau
  • Lleoliad yr ydych yn dymuno masnachu ynddo e.e. cyfeirnod grid, cyfeiriad, enw a rhif y ffordd, enw'r gilfan (lle bo'n berthnasol) ac unrhyw ffotograffau ategol.
  • Ffi

Er mwyn caniatáu amser digonol i brosesu eich cais, a fydd yn cynnwys ymgynghori ag amrywiol adrannau, ynghylch diogelwch bwyd, safonau masnach, priffyrdd (archwiliadau diogelwch) a rheolwyr marchnad, mae angen o leiaf 28 diwrnod o rybudd arnom ar gyfer pob cais. Mewn rhai achosion, er enghraifft ceisiadau ar gyfer cilfannau, gall fod angen mwy o amser i wneud hyn gan fod angen ymgynghori ag asiantaethau priffyrdd.

Mae dyletswydd arnom, fel corff cyhoeddus, i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus a weinyddir gennym ac i'r diben hwn cawn ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen hon i atal a darganfod twyll. Gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn.

Lawrlwythwch ffurflen gais (.pdf)