Trwydded safle carafanau gwyliau

Diweddarwyd y dudalen ar: 06/12/2023

Mae safleoedd carafanau gwyliau yn gweithredu o dan Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 a Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936, ac fel arfer maent yn drwyddedig i’w defnyddio gan breswylwyr am 8 i 10 mis o’r flwyddyn. Nid yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol i garafanau gwyliau.

Os ydych yn defnyddio tir fel safle carafanau, y mae bron yn sicr y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch. Yn dibynnu ar leoliad eich safle, gallwch gael y caniatâd hwn gennym ni neu mewn rhai achosion gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Os yw gwersyll neu barc carafanau wedi bod yn weithredol heb ganiatâd cynllunio, gallai fod yn bosibl gwneud cais am Dystysgrif Cyfreithlondeb yn seiliedig ar dystiolaeth hanesyddol.

Unwaith y mae gan eich safle ganiatâd cynllunio, bydd gofyn ichi wneud cais am Drwydded Safle Carafanau.

Byddwn yn ymweld â’ch safle i asesu a yw’n cyrraedd y safonau gofynnol, er enghraifft a oes lle, cyfleusterau a mannau tân digonol ar gael i nifer arfaethedig y carafanau neu bebyll. Dylai hyn olygu bod risg isel o niwed i breswylwyr y safle ac ymwelwyr.

Lawrlwythwch ffurflen gais (.pdf)

Y mae rhai eithriadau rhag cael trwydded safle:

  • Carafán sydd wedi’i lleoli o fewn cwrtil annedd, ac mae ei defnydd yn gysylltiedig a’r annedd. Mae hyn yn golygu na ellir preswylio ynddi ar wahân
  • Carafán unigol wedi’i lleoli am ddim rhagor na dwy noson olynol am fwyafswm o 28 diwrnod mewn unrhyw 12 mis
  • Hyd at dair carafán ar safle sydd heb fod yn llai na phum erw am fwyafswm o 28 diwrnod mewn unrhyw 12 mis
  • Safleoedd a ddefnyddir gan sefydliadau eithriedig, megis y Clwb Carafanau a Gwersylla 
  • Safleoedd o hyd at bum carafán sydd wedi’i hardystio gan sefydliad eithriedig ac sydd at ddefnydd aelodau yn unig
  • Safleoedd a ddefnyddir gan yr awdurdod lleol. Safleoedd sipsiwn a theithwyr yw’r rhain fel arfer
  • Safleoedd at ddibenion dros dro ac arbennig megis rali garafanau, gweithwyr amaethyddiaeth a choedwigaeth, safleoedd adeiladu a gwaith peirianyddol a gwerthwyr teithiol
  • Gall safle i bebyll yn unig gael ei defnyddio am fwyafswm o 28 diwrnod mewn unrhyw 12 mis