Trwydded Sgip

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Os oes angen i sgipiau adeiladwyr gael eu gosod ar y briffordd, ffordd, palmant neu ar ymyl y ffordd, mae angen cael trwydded. Mae hyn yn ofyniad yn Neddf Priffyrdd 1980. Mae gennym hawl i bennu amodau ynghylch lleoliad unrhyw sgipiau adeiladwyr. Nid cyfrifoldeb y cwsmer (na'i gontractwr) yw gwneud cais am y drwydded hon. Cyfrifoldeb y gweithredydd sgipiau yw sicrhau bod cais am hawlen wedi'i gyflwyno a'i ganiatáu. Rhoddir hawlenni o'r fath i weithredwyr sgipiau cofrestredig sydd â’r yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gofynnol yn unig. Os oes angen sgip arnoch, cysylltwch â gweithredydd sgipiau sydd â’r caniatâd angenrheidiol.

Bydd angen ichi lenwi'r ffurflen cais am sgip. Byddwch yn cael anfoneb i dalu am y ffioedd. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

  • Lleoliad y sgip
  • Prawf o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, ac mae'n rhaid iddo fod yn isafswm o £10 miliwn.
  • Cyfnod y drwydded
  • Prawf bod gennych drwydded cludwyr gwastraff. 

Gofynnir ichi ganiatáu 5 diwrnod gwaith o rybudd ar gyfer cymeradwyo cais am sgip. Gallwch gyflwyno eich ffurflen gais gyflawn drwy anfon e-bost i gofalstrydoedd@sirgar.gov.uk.

LAWRLWYTHWCH FFURFLEN GAIS (.pdf)

Y ffi sy'n daladwy ar gyfer gwneud cais am drwydded sgip yw £62 y mis neu ran o hynny (yn ddilys tan 31 Mawrth 2025).

Os bydd eich trwydded yn dod i ben, codir tâl adnewyddu o £177 y mis neu ran o hynny (yn ddilys tan 31 Mawrth 2025).

Anfonebir yr holl geisiadau am sgip i'r contractwr sgip bob mis. Sylwch fod ein ffioedd trwyddedau yn cael eu hadolygu bob mis Ebrill a bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl 1 Ebrill yn destun unrhyw ffioedd newydd.

Mae caniatâd yn amodol ar amodau a allai ymwneud â:

  • Lleoliad y sgip
  • Maint y sgip
  • Atebolrwydd Cyhoeddus, isafswm o £10miliwn
  • Mae'n rhaid bod gan yr ymgeisydd Drwydded Cludwyr Gwastraff

Gallai amodau ychwanegol fod yn berthnasol ar gyfer ceisiadau unigol.

Lawrlwythwch holl amodau'r drwydded (.pdf)