Trwyddedau alcohol ac adloniant

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn creu fframwaith o drwyddedau, tystysgrifau a hysbysiadau i reoleiddio gwerthu a chyflenwi alcohol, darparu adloniant wedi'i reoleiddio a chyflenwi lluniaeth hwyrnos. Mae'r canlynol yn weithgareddau trwyddedadwy o dan Ddeddf Trwyddedu 2003:

  • Gwerthu alcohol trwy fanwerthu
  • Cyflenwi alcohol gan neu ar ran clwb, neu ar archeb aelod o'r clwb
  • Darparu lluniaeth hwyrnos
  • Darparu adloniant rheoledig

Diffiniad bras o adloniant rheoledig yw unrhyw adloniant sy'n digwydd ym mhresenoldeb cynulleidfa (boed yn aelodau'r cyhoedd neu'n glwb), neu fel arall er mwyn gwneud elw ac mewn safleoedd sy'n darparu'r adloniant dan sylw. Gallai hyn gynnwys perfformio drama, dangos ffilm, digwyddiad chwaraeon o dan do, paffio neu reslo er adloniant, perfformio cerddoriaeth fyw, chwarae cerddoriaeth wedi'i recordio, perfformio dawns. Ceir diffiniadau cyflawn o adloniant rheoledig yn Atodlen 1 o'r Ddeddf. Mae rhai perfformiadau o gerddoriaeth fyw wedi'u heithrio rhag trwyddedu o dan ddarpariaethau Deddf Cerddoriaeth Fyw.