Gwneud cais am adolygiad

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2024

Gall unrhyw un o'r Awdurdodau Cyfrifol, neu unrhyw berson arall wneud cais am adolygiad. Mae'n rhaid i adolygiad fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn berthnasol i un neu fwy o'r amcanion trwyddedu, sydd fel a ganlyn:

  • Atal Troseddu ac Anhrefn
  • Diogelu'r Cyhoedd
  • Atal Niwsans Cyhoeddus
  • Amddiffyn Plant rhag Niwed

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch y broses cais am adolygiad yn ein Polisi Trwyddedu, yn y  Canllawiau Statudol A182 yn ogystal ag ar wefan Y Swyddfa Gartref.

Os ydych yn ystyried gwneud cais am adolygu trwydded safle, rydym yn eich cynghori i gysylltu â ni am gyngor ac arweiniad.

Ar ôl i gais am adolygiad gael ei gyflwyno, gall unrhyw awdurdod cyfrifol neu unrhyw berson arall gyflwyno sylwadau ynghylch y cais hwnnw.