Trwyddedau personol

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Rydym yn cyflwyno trwyddedau personol sy'n caniatáu i unigolion awdurdodi gwerthiant alcohol ar safle - cyhyd â bod gan y safle drwydded safle ddilys - sy'n cynnwys tafarnau, siopau trwyddedig, bwytai a gwestai.

Gall deiliaid trwydded bersonol hefyd gael eu henwi ar drwydded safle fel Goruchwylydd Penodedig y Safle.

Sut i wneud cais

Mae'n rhaid ichi wneud cais i'r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal lle rydych chi'n byw, nid yr awdurdod trwyddedu lle rydych chi'n gweithio. Ni yw'r awdurdod trwyddedu ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

Y ffi ar gyfer y drwydded hon yw £37.

Cyn cyflwyno'ch cais, rydym yn awgrymu eich bod yn darllen ein nodiadau canllaw - mae'r rhain yn egluro gofynion y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â hwy.

Lawrlwythwch ffurflen gais (.pdf)