Tystysgrif safle clwb

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/04/2024

Mae tystysgrif safle clwb yn awdurdodi clybiau cymwys i ddefnyddio safle'r clwb ar gyfer gweithgareddau cymwys y clwb, megis:

  • Cyflenwi alcohol gan neu ar ran clwb, neu ar archeb aelod o'r clwb
  • Gwerthu alcohol trwy fanwerthu i westai aelod o'r clwb
  • Darparu adloniant rheoledig

Dim ond clybiau cymwys all feddu ar dystysgrifau safle clwb. Er mwyn bod yn glwb cymwys mae'n rhaid bod o leiaf 25 o aelodau ac mae'n rhaid bod y clwb yn diwallu'r gofynion a bennwyd yn rhan pedwar o'r Ddeddf Trwyddedu. Ni chaniateir ymuno â chlwb yn syth, ac ar ôl cyflwyno eu cais rhaid i aelodau newydd aros am o leiaf ddau ddiwrnod cyn cael eu derbyn i'r clwb.

Gwneud cais am dystysgrif safle clwb

Cyn paratoi eich cais, dylech ddarllen ein Polisi Trwyddedu a dilyn y canllawiau statudol (a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref dan adran 182 o Ddeddf Trwyddedu 2003), wrth ddisgrifio'r camau rydych yn bwriadu eu cynnig i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, sef: 

  • Atal troseddau ac anhrefn
  • Diogelu'r cyhoedd
  • Atal niwsans cyhoeddus
  • Amddiffyn plant rhag niwed 

Mae rhai rhannau o'r sir yn destun Polisi Effaith Gronnol ac mae rhannau eraill wedi'u hamlygu fel mannau trafferthus o ran troseddau ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol, a rhoddir sylw i'r naill a'r llall yn y polisi.

Gwneud newid i dystysgrif sy'n bodoli eisoes

Yn dibynnu ar y math o newid yr hoffech ei wneud, gallwch gyflwyno cais amrywiad llawn neu fân amrywiad. Mae'r broses amrywio lawn yn debyg iawn i'r broses o wneud cais ar gyfer tystysgrif newydd i safle clwb, a'r un yw'r ffi. Dylech ddefnyddio'r broses hon os ydych am wneud newid i'ch tystysgrif, er enghraifft newid yr oriau gweithredu.

Os ydych am wneud newid bychan i'ch tystysgrif safle clwb, mae'n bosibl y byddwch yn gallu defnyddio'r broses mân amrywiadau. Mae hyn yn rhatach ac yn gyflymach na'r broses o wneud cais am amrywiad llawn. Gallai newidiadau bychain gynnwys:

  • dileu gweithgaredd trwyddadwy
  • gwneud mân newidiadau i gynllun eich safle

Os byddwch yn gwneud cais am fân amrywiad a gwrthodir eich cais, ni fyddwch yn gallu apelio. Fodd bynnag, gallwch ailgyflwyno cais gan ddefnyddio'r broses amrywiad llawn. Ni ellir defnyddio'r broses hon ond lle na fydd yr amrywiadau'n cael effaith niweidiol ar hyrwyddo unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu (atal troseddu ac anhrefn, diogelu’r cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus, amddiffyn plant rhag niwed).

Fe'ch cynghorir i gysylltu â ni i drafod eich cais cyn ei gyflwyno.