Trwyddedau hapchwarae

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Mae'r Deddf Hapchwarae yn rheoleiddio pob hapchwarae yn y Deyrnas Unedig, ac eithrio'r Loteri Genedlaethol a Gwasgar-Fetio. Fel yr awdurdod trwyddedu, rydym yn cyflwyno trwyddedau safle, hawlenni a hysbysiadau.

Mae tri phrif amcan i'r Ddeddf a'n dyletswydd ni, fel Awdurdod Trwyddedu sy'n caniatáu trwyddedau, yw sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni. Mae’r amcanion trwyddedu fel a ganlyn:

  • Atal hapchwarae rhag bod yn ffynhonnell ar gyfer troseddu neu anhrefn, wedi'i gysylltu â'r materion hynny, neu gael ei ddefnyddio i'w cynnal
  • Sicrhau bod hapchwarae’n cael ei weithredu mewn ffordd deg ac agored
  • Amddiffyn plant a phobl eraill sy'n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu ddioddef camfantais yn sgil hapchwarae

Mae'n rhaid i ni geisio caniatáu defnyddio safleoedd ar gyfer hapchwarae i'r graddau y credwn fod hynny'n digwydd:

  • yn unol ag unrhyw godau ymarfer perthnasol
  • yn unol ag unrhyw arweiniad perthnasol a gyhoeddir gan y Comisiwn Hapchwarae
  • yn rhesymol gyson â’r amcanion trwyddedu; ac yn unol â'n Datganiad o egwyddorion trwyddedu

Cofrestr Gyhoeddus Deddf Hapchwarae

Rydym yn cadw cofrestr gyhoeddus o'r holl drwyddedau safleoedd, hysbysiadau, cofrestriadau a hawlenni a gyflwynir o dan y Ddeddf Hapchwarae 2005. Gellir gweld y gofrestr yn ein swyddfeydd ar ddydd Llun - ddydd Iau: 8:45am - 5pm a dydd Gwener: 8:45am - 5pm. E-bostiwch ni i wneud apwyntiad i weld y gofrestr. 

Deddf Hapchwarae 2005. Polisi Hapchwarae diwygiedig

Mae gofyn i bob awdurdod trwyddedu adolygu, ymgynghori ar a chyhoeddi Polisi Hapchwarae bob tair blynedd i amlinellu’r egwyddorion arfaethedig y bydd yn eu gweithredu i gyflawni ei ddyletswyddau trwyddedu o dan y Ddeddf.