Trwyddedau safleoedd hapchwarae

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Rydym yn cyflwyno trwyddedau safleoedd hapchwarae a gallwn awdurdodi darparu cyfleusterau hapchwarae yn y mannau canlynol:

  • Safleoedd casino
  • Safleoedd bingo
  • Safleoedd betio, gan gynnwys caeau rasio
  • Canolfannau hapchwarae i oedolion
  • Canolfannau adloniant teulu

Ac eithrio yn achos caeau rasio lle efallai nad deiliad y cae rasio sy'n meddu ar y drwydded safle yw'r sawl sy'n cynnig yr hapchwarae, gellir ond rhoi trwyddedau safle i bobl â thrwydded gweithredydd hapchwarae berthnasol. Er enghraifft, i gael trwydded safle bingo, rhaid i'r ymgeisydd feddu ar drwydded gweithredu bingo.  Mae modd trosglwyddo trwyddedau safle i rywun arall sy'n meddu ar drwydded weithredu ddilys.

Ffioedd

Mae ffi flynyddol ar gyfer trwydded safle yn daladwy yn y flwyddyn gyntaf, 30 diwrnod ar ôl caniatáu'r hawlen, ac yna bob blwyddyn ddilynol ar ben-blwydd cyflwyno'r hawlen.

Gwneud cais am drwydded safle

Fe'ch cynghorir i ddarllen y canllawiau a'r dogfennau polisi perthnasol a chysylltu â'r adran drwyddedu gydag unrhyw ymholiadau cyn cwblhau cais.

Rhaid i chi wneud eich cais mewn person yn un o'n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd angen i chi ddarparu'r eitemau canlynol:

  • Ffurflen gais wedi'i chwblhau
  • Dogfennau ategol
  • Ffi

Lawrlwythwch ffurflen gais (.DOC)