Roedd gwyliau gartref (staycations) wedi dechrau dod yn fwy poblogaidd hyd yn oed cyn y pandemig, felly nid yw'n syndod bod yr arfer o fynd ar wyliau rhywle yn y DU wedi cynyddu eleni...a does dim sôn bod y duedd honno'n mynd i newid yn fuan.
Tyfodd poblogrwydd gwyliau gwersylla, glampio a charafanio yn sylweddol pan oedd hawl teithio eto yn 2020, ac mae'n debygol taw'r un fydd y stori eleni.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae gennym dros 133 o feysydd carafanio a gwersylla sy'n cynnwys carafanau statig, cabanau, sialés, safleoedd glampio, a meysydd gwersylla traddodiadol. Pan fyddant yn llawn, mae hynny'n fwy na 18,000 o ymwelwyr y noson.
Mae hon yn farchnad dwf, ac yn allweddol i hybu'r economi leol gan fod yr ymwelwyr hyn yn ddieithriad yn aros yn y sir at ddibenion hamdden ac yn stopio ar y ffordd i brynu bwyd ac ati.
Rydym am eu hannog i brynu gan gynhyrchwyr bwyd, siopau annibynnol, orielau, a busnesau lleol.
Drwy ymgyrch 100% Sir Gâr Darganfod Sir Gâr, byddwn yn hyrwyddo popeth sydd gan y sir i'w gynnig - llefydd i fynd, pethau i'w gwneud, a mannau i fwyta allan a siopa'n lleol. Ein nod yw annog ymwelwyr i wario yn yr economi leol, i fwynhau cynnyrch o'r radd flaenaf a chelfyddyd a chrefftau unigryw, ac i rannu eu profiad o ymweld â Sir Gaerfyrddin.
Deall ymddygiad ymwelwyr
Rydym wedi comisiynu ymchwil yn y sector hwn i ddeall yn well:
- ymddygiad ymwelwyr ar ôl y pandemig
- gwariant ymwelwyr
- ble maent yn mynd pan fyddant ar wyliau
- ymweliadau'r tu allan i'r tymor
- beth wnaeth eu cymell i ymweld
- bwriad i ddychwelyd
Byddwn yn rhannu'r ymchwil hon i'r farchnad gyda busnesau yn y sector hwn i'ch helpu i ddeall anghenion, disgwyliadau a phatrymau gwario ymwelwyr yn well tra byddant ar eu gwyliau yn yr ardal.