Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Strategol Cydraddoldeb ar gyfer 2020-24 sy’n amlinellu sut bydd y Cyngor yn gwireddu ei gyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r Dyletswyddau Penodol yng Nghymru.

Mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw priodol i'r angen i:

  • Ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf;
  • Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu;
  • Hybu perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Mae’r cynllun yn cynnwys gwybodaeth am ein gwaith ymgysylltu, y dystiolaeth ar gyfer datblygiad y Nodau Cydraddoldeb a phwyntiau gweithredu am y flwyddyn gyntaf o weithredu.

Mae’r dudalen hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth allweddol am ein Gweithlu.

Cyngor a Democratiaeth