• English
  • Hepgor gwe-lywio

Sut mae bod yn Gynghorydd

Bydd yr Etholiadau llywodraeth leol nesaf ym mis Mai 2017, ac mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ichi am sut mae sefyll mewn etholiad a'r hyn a ddisgwylir ohonoch os byddwch yn cael eich ethol yn un o Gynghorwyr Cyngor Sir Caerfyrddin.

Os ydych â'ch bryd ar fod yn ymgeisydd, mae angen ichi gael eich enwebu gan 10 o bleidleiswyr cofrestredig yn y ward benodol honno, a datgan eich bod yn cytuno i'r enwebiad. Wedyn mae angen ichi ennill y mwyafrif o'r pleidleisiau a gaiff eu bwrw. Mae nifer y pleidleisiau y mae ei angen arnoch i ennill yn dibynnu ar yr adran etholiadol lle rydych yn dewis sefyll mewn etholiad. Ceir dau aelod mewn rhai adrannau etholiadol.

Bydd pecynnau enwebu ar gael ar ddechrau 2017. Os hoffech fynegi diddordeb, cysylltwch â'r Gwasanaethau Etholiadol drwy ffonio 01267 228609.

Os ydych yn ystyried sefyll fel ymgeisydd ar gyfer plaid wleidyddol benodol, dylech yn gyntaf gysylltu â grŵp lleol y blaid honno. Os ydych yn bwriadu sefyll mewn etholiad fel Cynghorydd annibynnol, cysylltwch â'r Gwasanaethau Etholiadol a fydd yn falch o gael rhoi rhagor o wybodaeth ichi.

Mae'r Cyngor yn cynnwys 74 o Gynghorwyr etholedig sy'n cynrychioli  58 o Wardiau Etholiadol. Fel arfer mae'r Cyngor yn cwrdd yn fisol ac mae ganddo restr o swyddogaethau gan gynnwys mabwysiadu a newid y Cyfansoddiad, cymeradwyo a mabwysiadu'r Fframwaith Polisi a'r Gyllideb, penodi'r Arweinydd, a phenderfynu a chytuno ar Bwyllgorau a'u cylch gorchwyl. Am restr lawn o swyddogaethau'r Cyngor, darllenwch Erthygl 4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

Mae hyd at ddeg o aelodau'r Cyngor yn rhan o'r Bwrdd Gweithredol, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor. Mae'r Bwrdd Gweithredol yn gyfrifol am gyflawni holl swyddogaethau'r awdurdod lleol nad yw'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt. Mae'r Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol yn gyfrifol am wneud penderfyniadau o fewn meysydd diddordeb penodol, a elwir yn bortffolios. 

Mae'r Pwyllgorau Craffu yn ymddwyn fel 'cyfaill beirniadol' i'r Bwrdd Gweithredol ac i eraill sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn hyrwyddo gwasanaethau, polisïau a phenderfyniadau gwell. Gan weithio mewn ffordd debyg i bwyllgorau dethol seneddol, mae'r pwyllgorau craffu'n cynnwys cynghorwyr nad ydynt yn y cabinet.

Y Pwyllgorau Cynllunio, Archwilio a Thrwyddedu sy'n gwneud penderfyniadau rheoleiddio'r Cyngor a'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd sy'n adolygu digonolrwydd darpariaeth yr Awdurdod o ran cyflawni swyddogaeth y gwasanaethau democrataidd. Hefyd ceir Pwyllgor Safonau i hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad ac i helpu Cynghorwyr i gydymffurfio â'r Côd Ymddygiad.

Mae gan Gynghorwyr hawl i gyflog sylfaenol (£13,300 y flwyddyn ar hyn o bryd). Caiff cyflogau uwch a lwfansau/treuliau eraill eu talu yn unol â'r rolau a'r cyfrifoldebau a allai fod gennych yn dilyn cael eich ethol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am daliadau drwy glicio ar y ddolen ganlynol: Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Ar ôl cael eu hethol, disgwylir i Gynghorwyr fynychu gwahanol sesiynau hyfforddiant a datblygu yn ystod eu cyfnod yn y swydd. Darperir sesiwn sefydlu i'r holl Gynghorwyr newydd a'r rhai sy'n dychwelyd yn ystod eu 12 mis cyntaf yn y swydd, a chaiff hyfforddiant pellach ei roi'n barhaus drwy ddigwyddiadau datblygu'r aelodau.

Disgwylir i Gynghorwyr fynychu cyfarfodydd a phwyllgorau ac mae rheidrwydd arnynt i gadw at Gôd Ymddygiad y Cynghorwyr.  

Fel cynrychiolwyr lleol, mae cyfrifoldebau gan gynghorwyr tuag at eu hetholwyr a'u sefydliadau lleol. Yn aml mae'r cyfrifoldebau a'r dyletswyddau hyn yn dibynnu ar yr hyn mae'r Cynghorydd am ei gyflawni a faint o amser sydd ar gael, a gallant gynnwys: mynychu cyfarfodydd cyrff llywodraethu ysgolion yn ei ward, mynychu cyfarfodydd sefydliadau lleol fel cymdeithasau tenantiaid a chyrff sy'n effeithio ar y gymuned ehangach, codi materion ar ran y cyhoedd, cynnal cymorthfeydd y gall trigolion godi materion ynddynt, a chwrdd â thrigolion yn unigol yn eu cartrefi eu hunain.

Ar gyfartaledd amcangyfrifir bod cynghorwyr yn treulio'r hyn sy'n cyfateb i dri neu bedwar diwrnod yr wythnos ar waith y cyngor. Yn amlwg, mae rhai cynghorwyr yn treulio mwy o amser na hyn tra bo eraill yn treulio llai.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi llunio Llawlyfr i Ymgeiswyr - Etholiadau Lleol Cymru ar y cyd ag awdurdodau lleol, sy'n ganllaw defnyddiol i ddarpar ymgeiswyr.

Mae'r Uned Gwasanaethau Democrataidd yn gweinyddu cyfarfodydd y Cyngor ac yn darparu gwasanaeth cymorth penodedig, gan roi cyngor am y gyfraith a'r arferion sy'n perthyn i gyfarfodydd i Gynghorwyr, swyddogion, a'r cyhoedd, a chan roi cymorth i'r holl Gynghorwyr ag ymholiadau a cheisiadau yn ymwneud â gweinyddiaeth.

Ar ôl i Gynghorwyr gael eu hethol, rhoddir llechen, cyfrifiadur côl ac argraffydd iddynt ac fe'u hanogir i wneud gwaith y Cyngor yn electronig. Mae TG yn rhan fwyfwy hanfodol o rôl Cynghorydd, ac argymhellir bod ymgeiswyr yn gallu defnyddio TG yn hyderus neu'n barod i gael hyfforddiant.

Mae'r Cyngor yn Awdurdod dwyieithog, ac, fel Cynghorydd, byddwch yn gallu gweithredu yn eich dewis iaith, boed honno y Gymraeg neu'r Saesneg, ac mae cyfleusterau cyfieithu ar gael ym mhob un o gyfarfodydd y Cyngor er mwyn hwyluso hyn.  Hefyd mae hyfforddiant Cymraeg ar gael i unrhyw Gynghorwyr sy'n dymuno dysgu'r iaith.

 

ar-lein am dani