Hysbysiadau Cyhoeddus
- Archwilio cyfrifon
- Mynwent
- Seremonïau Sifil
- Adolygiad Cymunedol
- Addysg ac ysgolion
- Etholiadau
- Trwyddedu Amgylcheddol
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Hawliau Tramwy Cyhoeddus
- Tir
- Trwydded
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Cau mangre
- Gwella mangre
- Teithio, Ffyrdd a Pharcio
- Bwlchnewydd, Caerfyrddin
- Heol Pontarddulais, Llanedi
- Sir Gaerfyrddi
- Sir Gaerfyrddin
- Ffordd Ddiddosbarth I'r De O Langadog
13
Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Gosod Terfyn Cyflymder O 20 Mya) 2023
Cyfeirnod y Ffeil: HD/HTTR-1720
HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Sir Caerfyrddin, ar yr 8fed o Fedi 2023, wedi gwneud Gorchymyn dan Adrannau 84(1)(a), 84(1)(c), 84(2) a 124 a pharagraff 27 o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd)
Effaith y Gorchymyn hwn yw:
(a) cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar hyd y ffyrdd neu rannau o'r ffyrdd a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2 o'r Atodlen i'r Hysbysiad hwn ond yn fwy penodol ar y mapiau sy'n cynnwys rhif cyfeirnod teitl unigryw a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen ddywededig ar gyfer pob ardal a ddisgrifir yng ngholofn 1 y dylid eu darllen ar y cyd â'r Gorchymyn ac sy'n ffurfio rhan o'r un peth; a
(b) dirymu Gorchymyn (dewiswch 'gorchmynion i'w dirymu' isod am restr lawn o orchmynion)
Sir Gaerfyrddin (Ffyrdd Cyfyngedig) 2005 (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya ar Amrywiol Ffyrdd, Twyn, y Garnant),Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Ffyrdd Cyfyngedig) 2006 (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya ar Ffordd Dosbarth III, Peniel), Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Ffyrdd Cyfyngedig) 2006 (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya yn y Bryn, Llanelli), Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Ffyrdd Cyfyngedig) 2006 (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya ar Amrywiol Ffyrdd, Dre-fach), Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Ffyrdd Cyfyngedig) 2006 (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya yn Ffair-fach), Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Ffyrdd Cyfyngedig) 2008 (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya yng Nghwm-du),Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Heol Bethania, Tymbl Uchaf) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2008, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Heol Llansteffan, Tre Ioan) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2008, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Pencader) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2009, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Cefneithin a Cross Hands) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2009,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Heol Trallwm, Bryn Isaf a Chlos Bryn Isaf) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2009,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Talyllychau) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2009, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Amrywiol Ffyrdd, Caerfyrddin) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2009, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Porth Tywyn) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2010,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Pont-iets) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2010, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Talacharn) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2010, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (y Garnant) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2010, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin (Yr A484 Pont Cenarth a'r B4332 Cenarth, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya a 30mya), Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Y Tymbl) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2011,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Pwll) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2011, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (B4306 Heol y Parc a Heol y Felin, Pontyberem) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2011,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Llanfynydd) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2011, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Maesgwyn a'r B4309 Heol y Meinciau, Pont-iets) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2011,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Rhan o Ffordd yr C2133 a'r C2214 yn y Betws) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2011, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2011, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Heol Blaenhirwaun, Dre-fach) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2012, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Pen-bre) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2012, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Glanyfferi) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2012, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Heol y Gogledd, Hendy-gwyn ar Daf) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2012,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Mynyddygarreg) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2012, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20 mya) 2012, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Llansteffan) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2012, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Porth Tywyn) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2012, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Bonllwyn) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2013, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Rhydaman) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2013, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Cydweli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2013, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Ffordd y Coleg, Heol Glanant, Heol Parc-maen, Nant y Felin, Rhodfa Crispin, Heol y Sycamorwydd, Llwyn Onn, Ffynnon Waun, Heol y Ffawydd, Rhodfa Steele, Rhodfa Penybryn, Maes Picton, Cilgant y Masarn, Trem y Coleg, Llwyn yr Eos, Meysydd y Coleg, Maes yr Ehedydd a Phant y Barcud, Caerfyrddin) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2013, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Dyffryn y Swistir) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2013,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Ffordd yr A4069 yn Ysgol Gynradd Llangadog) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2013, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Llangynnwr, Caerfyrddin) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2013, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Llwynhendy, Pemberton, Bryn, Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2014, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Coedlan Denham, Iscoed a Phenywern, Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2014,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Castellnewydd Emlyn) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2014, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Abernant, Caerfyrddin) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2015, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Llangadog) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2015, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Terfynau Cyflymder 20mya, 30mya a 40mya) (A476 Ffair-fach, Llandeilo) 2015, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2015, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Dyffryn y Swistir) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2015, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (B4297 yn Llangennech, Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2016, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Saron, Rhydaman) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2016,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Llanpumsaint) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya a 40mya) 2016, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Stryd y Farchnad, Hendy-gwyn ar Daf) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2016, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Castellnewydd Emlyn a Phont-tyweli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2017, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Cynwyl Elfed, Caerfyrddin) (Terfyn Cyflymder o 20mya) 2017, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Saron a Rhos, Llandysul) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya a 30mya) 2017,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Heol y Bragdy, Caerfyrddin) (Ymestyn y Terfyn Cyflymder o 20mya) 2017, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trimsaran) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2017,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Meidrim, Caerfyrddin) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2017, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Bryn, Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2018, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Pen-y-groes, Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2018, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2018, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Castellnewydd Emlyn) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2018, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Rhydaman) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2019, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Porth Tywyn, Bancyfelin, Caerfyrddin a Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2020,Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Pump-hewl, Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2020, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (De Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2021, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Gogledd Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2021, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Llannon, Llanelli) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2021, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Y Garnant, Rhydaman) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2021, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Amrywiol Ffyrdd, Caerfyrddin) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2021, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Amrywiol Ffyrdd, Rhydaman) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2021, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Tre-lech, Carwe, Nantgaredig, Llanybydder, Pwll, Tŷ-croes, Ffair-fach, Blaenau a'r Hendy) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2021, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Siloh, Llanwrda, Llanymddyfri) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2022, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Myddfai, Llanymddyfri) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2022, Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Caio, Llanwrda) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2022, a Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Porthyrhyd, Llanwrda) (Gosod Terfyn Cyflymder o 20mya) 2022
Daw’r Gorchymyn i rym ar yr ail ddiwrnod ar bymtheg o Fedi 2023 a gellir cael golwg ar y Gorchymyn drafft ynghyd â'r mapiau sy'n dangos y darnau ffordd dan sylw, datganiad o resymau'r Cyngor dros wneud y Gorchymyn, a'r gorchmynion sy'n cael eu dirymu, yn Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin yn:
- Uned A, Rhodfa'r Santes Catrin, Caerfyrddin, SA31 1GA
- Rhif 41 Stryd y Cei, Rhydaman, SA18 3BS
- Yr HWB, Rhif 36 Stryd Stepney, Llanelli, SA15 3TR
Gellir gweld y dogfennau drwy ysgrifennu at Adran Rheoli Traffig y Cyngor, Bloc 2 Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ neu e-bostio ENTrafficManagement@sirgar.gov.uk.
Gall unrhyw un sydd am gwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth ynddo, am y rheswm nad yw o fewn pwerau’r Ddeddf, neu am na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion y Ddeddf neu unrhyw offeryn oddi tani mewn perthynas â’r Ddeddf, o fewn chwe wythnos i ddyddiad gwneud y Ddeddf, wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn.
Datganiad O’r Rhesymau Dros Orchymyn 20 Mya
Cafodd deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd cyfyngedig o 30 mya i 20 mya ei gwneud gan Weinidogion Cymru ar 13 Gorffennaf 2022. Bydd y terfyn cyflymder 20 mya diofyn newydd ar ffyrdd cyfyngedig (a nodweddir gan system goleuadau stryd neu sydd fel arall o dan gyfyngiad drwy Orchymyn) yn dod i rym ar 17 Medi 2023. O’r dyddiad hwnnw, bydd gan unrhyw ffordd gyfyngedig derfyn cyflymder 20 mya oni bai bod terfyn cyflymder gwahanol yn cael ei osod gan yr awdurdod priffyrdd drwy Orchymyn.
Mae’r rhannau presennol o'r rhwydwaith ffyrdd sirol sydd ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i derfyn cyflymder 30 mya neu lai wedi eu hasesu yn erbyn y meini prawf lleoliad a nodir yn adendwm 01/2022 i Gylchlythyr Rhif: 24/2009 Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru er mwyn canfod a ydynt yn bodloni’r meini prawf eithrio ac y dylent barhau’n 30 mya.
Mae egwyddorion y meini prawf eithrio yn seiliedig ar ddyhead Llywodraeth Cymru y dylai terfyn cyflymder 20 mya gael ei osod yn gyffredinol pan fo cerddwyr a/neu feicwyr a cherbydau modur yn cymysgu’n aml, ac eithrio pan fo tystiolaeth gref yn dangos bod cyflymderau uwch yn ddiogel. Yn dilyn asesiadau, mewn lleoliadau lle nad yw goleuadau stryd yn ymestyn i ffin y datblygiad, cynigir terfyn cyflymder 20 mya drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig yn y lleoliadau a amlinellir yn Atodlen 1 a Chyfeiriadau Atodlen Map perthnasol.
O ganlyniad i’r terfynau cyflymder a gynigir, caiff amryw o Orchmynion presennol eu dirymu neu eu haddasu gan y Gorchymyn arfaethedig.
Lawrlwythiadau
I ddod o hyd i leoliad penodol ar y cynlluniau sydd wedi’u mapio, gweler ‘Atodlen’ (colofn 1) a nodwch y ‘Cyfeirnod Map’ (Colofn 3).
Bydd angen i chi glicio ar un o'r segmentau Rhestr Fapiau isod a dal Ctrl F i lawr, bydd blwch chwilio yn ymddangos ar y dde uchaf.
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio i ddod o hyd i'ch cyfeirnod Map.
Mae'r Cyfeirnod Map yn ymddangos ar ochr dde uchaf pob cynllun wedi'i fapio.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i system map sy'n dangos yr holl derfynau cyflymder a gadarnhawyd sy'n gysylltiedig â'r Hysbysiad Cyhoeddus hwn.
E-bost: HLDavies@sirgar.gov.uk
Wendy Walters, Prif Weithredwr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin
- Math o hysbysiad: Teithio, Ffyrdd a Pharcio
- Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Cynlluniau gwaith i'r dyfodol
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2021
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Deddf Etholiadau 2022 ac ID Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
- Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
Diogelu Data
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth